Ni fyddai yn frysiog wrth gychwyn, ac wedi cychwyn ychydig gamrau, cofiai fod ganddo rywbeth eisiau ei ddywedyd wrth rywun yn y teulu; tröai yn ol i'w ddywedyd, ac ailgychwynai, yn bwyllog. Cyfarfyddai wed'yn, ar y ffordd a rhyw gyfeillion, neu gydnabyddion, a byddai raid ysgwyd llaw a'r rhai hyny, a holi am eu teuluoedd, a'u helyntion. Wedi cyrhaedd pen y daith, byddai raid troi i ryw dŷ, am ychydig o funudau; yna, ai i'r capel, ac esgynai yn bwyllog i'r areithfa, ac ai trwy wahanol ranau y gwasanaeth yn fanwl, a rheolaidd. Pa nifer bynag fyddent wedi dyfod yn nghyd, ai llawer, neu ychydig, gwnai ef "waith Efengylwr." Wedi darfod y moddion, byddai yn ymddiddan a llawer, ond odid. Ni fyddai mewn brys i gychwyn yn ol, drachefn; ac, yn aml, byddai yn bur hwyr cyn y cyrhaeddai ei gartref. Wedi bod yn llafurio yn galed, mewn amser ac allan o amser, yn ei gylch eang, am oddeutu wyth mlynedd, annogodd ef y cyfeillion yn y Cutiau, a Llanelltyd, i roddi galwad i Mr. Edward Davies, gynt o'r Allt, ger y Dinas Mawddwy, i fod yn weinidog iddynt. Gwnaethant hwythau hyny, a chydsyniodd Mr. Davies â'u cais, a bu yn llafurio yn y lleoedd hyny am rai blynyddau.
Wedi hyny ymadawodd Mr. Davies i waelod swydd Drefaldwyn, ac ymunodd yr Eglwys oedd yn y Cutiau â'r achos newydd oedd yn yr Abermaw; ond daeth Llanelltyd eilwaith dan ofal Mr Jones, mewn undeb à Mr. Davies, Trawsfynydd. Yr oeddynt yn pregethu yno Sabboth o bob mis ill dau, trwy yr holl flynyddoedd hyd farwolaeth Mr. Jones; ac y mae Mr. Davies, mae yn debyg, yn parhau etto i wneuthur hyny, er ei fod bellach mewn gwth o oedran. Parhaodd Mr. Jones i lafurio yn ddiwyd yn Rhydymain, Brithdir, Islaw'rdref, Llanelltyd, a Dolgellau, am lawer of flynyddoedd. Golygai y Dysgedydd yr un pryd, ac a'i yn mhell ac yn agos i gyfarfodydd pregethu a chymanfaoedd, yn ei sir ei hun a siroedd eraill. Rhaid fod ganddo fwy na llonaid. ei freichiau o waith; ond ni welid ef byth mewn brys. Gallesid meddwl arno nad oedd neb yn y wlad yn fwy rhydd oddiwrth ofalon o bob math nag oedd ef.