Cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn yr hyfrydwch o gyd-deithio âg ef, trwy ran o swydd Feirionydd, i gasglu at gapel Ffestiniog, yn y flwyddyn 1841. Cawsom daith ddedwydd iawn, a threuliasom ein horiau hamddenol mewn ymresymu ar byngciau Duwinyddol, a llawer o faterion eraill cysylltiedig a gweinidogaeth yr efengyl. Bu y daith yn fuddiol iawn i mi, ac yn ddedwydd dros ben. Yr oedd yn wir ddrwg genyf ei gweled yn terfynu.
Bum hefyd ar daith gydag ef a Mr. Davies, Trawsfynydd, i gyfarfod y Sulgwyn yn Mangor. Arosasom am rhyw ddwy awr yn Meddgelet, i fwydo ein hanifeiliaid. Yr oedd yno gladdedigaeth ar y pryd, a thyrfa fawr wedi dyfod yn nghyd. Aethom ninnau yn eu plith i'r Eglwys i glywed darllen y gwasanaeth. Canwyd yno amryw bennillion, nes oedd yr hen adeilad yn adseinio. Yr oedd yn amlwg i ni fod rhywun a "galar mawr am dano," yn myned i'w fedd y dydd hwnw. Ni wyddem ni pwy. Wedi dyfod o'r Eglwys at y bedd, aeth Mr. Davies i barotoi y meirch, fel y gallem ni ail-gychwyn i'n taith; ond arosodd Mr. Jones a minnau gyda y dorf wrth y bedd, nes gorphen o'r gweinidog ei orchwylion yno. Yr oedd yno demladau dwysion ac wylofain mawr. Ar y diwedd, gofynai y Person yn sarug iawn i'r bobl, "Pa ham yr oeddynt hwy yn dywedyd ar hyd y plwyf, nad oedd ef yn dyfod yn amserol i gyfarfod claddedigaethau?" Haerai "mai hwy oedd bob amser ar ol yr awr appwyntiedig," a gofynai "a oeddynt yn meddwl ei fod ef i ddyfod yno i aros am danynt hwy, na wyddai neb am ba hyd?" Yr oeddem ni wedi synu clywed y fath lith yn nghanol dagrau ac ocheneidiau y gynnulleidfa. Wrth fyned tua y Gwesty dywedai Mr. Jones wrthyf, "Wel, onid oedd y Person wedi gwylltio cryn dipyn, onid oedd o? Dyna iddyn nhw wers chwerw braidd. Pwy ydyw o tybed?"
Pregethodd lawer iawn gartref ac oddi cartref, yn y gogledd a'r dehau ar ei dro. Bu wrthi yn ddiwyd am faith flynyddau, ar bob hin, a than bob amgylchiadau. Ni arbedodd lafur meddyliol gyda ei bregethau: ond ni ysgrifenai ddim ond y