Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y dylasai, i'r eglwysi oedd dan ei ofal. Gallai ei fod yn rhy wylaidd yn nechreu ei weinidogaeth i alw eu sylw at y mater costus hwnw; a'i fod trwy golli yr adeg briodol, fyth wedi hyny yn rhy wan i'w wneuthur yn effeithiol. Y mae yn ddigon gwir ei fod ef yn llawer mwy cymhwys i drin. Arfaeth ac Etholedigaeth, Pechod gwreiddiol a gweithredol, Dylanwad Dwyfol a Pharhad mewn gras, nac i drin pwngc arianol oedd yn dal y fath berthynas âg ef ei hunan. Pa fodd bynag y bu iddo fethu dysgu i'r bobl gyfranu at ei gynhaliaeth, costiodd hyny iddo ef orfod trin y byd, fel amaethwr, ar hyd ei oes, a byw, efe a'i deulu, ar adnoddau oeddynt felly yn annibynol ar haelfrydedd yr eglwysi.


PENNOD IV.

TERFYNIAD EI OFALON GWEINIDOGAETHOL YN RHYDYMAIN A'R BRITHDIR.

Llythyr y Parch. H. James-Mr. Jones a Williams, o'r Wern, yn y Dinas-Diffyg addysgu pobl ei ofal mewn haelioni-Cyflog chwarterol- Cynghori yr eglwysi í ddewis olynydd iddo-Galwad y Parch. H. James-Ei dynerwch yn dysgyblu-Ei lymder os gwelaí angen-Yn darostwng hunanolrwydd gwr ieuangc yn y sciat yn Nolgellau-Cyng- hori ei olynydd o barthed ymholiadau ac ymofynion rhai o hen Dduwinyddion y lleoedd hyn, &c., &c.

Crybwyllwyd eisoes, ddarfod i Mr. Jones ymrhyddhau oddiwrth ei ofalon gweinidogaethol yn y Cutiau oddeutu y flwyddyn 1819; a bod gofal Llanelltyd wedi ei ranu rhyngddo ef a'i gyfaill Mr. Davies, Trawsfynydd. Bu gofal Rhydymain a'r Brithdir arno ef yn unig, mewn cysylltiad a Dolgellau ac Islaw'rdre am ugain mlynedd yn ychwaneg. Fel yr oedd yn prysur ddringo tua thriugain oed, a'i wrandawyr yn lluosogi, a'r aelodau yn yr eglwysi yn amlhau, dechreuodd farnu a theimlo y byddai yn well iddo gyfyngu cylch ei lafur i Ddolgellau, Islaw'rdre, a Llanelltyd. O ganlyniad anogodd. y gynnulleidfa yn Rhydymain a'r un yn y Brithdir, i ymuno a'u gilydd i fod yn feusydd gweinidogaeth newydd, ac i wahodd gwr ieuangc teilwng i'w mysg i lafurio. Gwrandawodd y bobl ar eu hen athraw, a gwahoddasant Mr. Hugh