Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

James, o Ddinas Mawddwy, i ddyfod i'w plith. Cymerodd y cyfnewidiad hwn le yn y flwyddyn 1839. Caiff y Parch. Hugh James ei hun egluro y symudiad hwnw yn mhellach yn y Llythyr canlynol:—

LLYTHYR Y PARCH. H. JAMES.

"Yr oeddwn yn adnabod fy hybarch hen gyfaill Mr. Jones, er pan oeddwn yn ieuangc iawn; yn gymaint ag nad oedd ond deng milldir o ffordd o'm cartref i, i'w gartref ef. Clywais ef yn pregethu lawer gwaith, yn Dinas Mawddwy a'i hamgylchoedd, er yn blentyn. Byddai yn dda genyf ei wrando bob amser, yn enwedig pan gaffai 'hwyl,' gan fod ei lais yn hynod beraidd a soniarus. Ond nid yn aml iawn y byddai efe yn cael hwyl. Lled hamddenol y byddai efe yn pregethu y rhan amlaf. Y tro cyntaf y mae genyf gôf am dano ydoedd, yn pregethu yn y Dinas ar ganol dydd gwaith, gyda'i hen gyfaill Williams, o'r Wern.' Nid wyf yn cofio ei destyn; ond yr wyf yn cofio yn dda brif bwnge ei bregeth, sef 'Dadymchwelyd esgusodion a gwrthddadleuon esgeuluswyr ac oedwyr iechydwriaeth.' Ymddangosai i mi ei fod yn hynod fedrus gyda'i waith. Gwnaeth ei sylwadau argraff ddwys ar fy meddwl. Yr oeddwn i yn tybied ei fod yn rhagori y tro hwnw, ar yr hen 'seraph' Mr. Williams. Byddai yn hawdd i mi ysgrifenu llawer o bethau am dano; ond gan fod dymuniad i mi ysgrifenu ychydig ar 'Derfyniad ei weinidogaeth yn Rhydymain a'r Brithdir;' yn gymaint ag mai myfi ydoedd ei olynydd, yn y manau hyny, am y tair blynedd cyntaf wedi iddo roddi eu gofal i fyny, rhaid i mi gyfyngu fy hunan at y mater hwnw. "Nid dim annghydfod rhyngddo a neb o'i hen gyfeillion yn Rhydymain a'r Brithdir oedd yr achos iddo ymadael à hwy; ond cylch ei weinidogaeth a'i lafur oedd wedi myned yn rhy ëang, a mawr angen am gael dyn ieuangc i'w gynnorthwyo. Dyna yr unig reswm dros ei ymadawiad â hwy. Yn Llanbrynmair, yn cadw yr ysgol ddyddiol, ac yn cynnorthwyo y Parch. Samuel Roberts, y treuliais y flwyddyn olaf cyn myned i'r Brithdir a Rhydymain. Cefais alwad i fyned yno am dri neu bedwar