ac yn dywyll. 'Ho! fel a'r fel yr wyt ti yn meddwl ai ê?' ebe Mr. Jones. Dywedodd y gwr ieuangc ychydig yn mhellach ar y pwngc; ond yr oedd yn dechreu myned i'r niwl. Holodd yr hen weinidog ef drachefn, a pharhaodd i'w holi, nes iddi fyned yn nos dywyll arno. Ni wyddai yn y byd pa beth i'w ddyweyd. Yna gadawodd ef yn nghanol y tywyllwch, gyda dyweyd wrtho, 'Yr wyt ti yn fachgen gwych; darllen a myfyria ychwaneg ar y pwngc yna; ti ddoi di yn dduwinydd da bob yn dipyn.' Yr oeddwn i ac amryw eraill yn cael difyrwch mawr wrth wrando arno yn darostwng y dyn ieuangc hunanol, mor ddidrafferth, trwy ddangos iddo ei anwybodaeth.
"Treuliais lawer darn diwrnod yn ei dy, ac yn ei gymdeithas ef a'i briod hawddgar a charedig, yn ysbaid y tair blynedd y bum yn y Brithdir a Rhydymain. Buom yn dadlu llawer o dro i dro, ar wahanol byngciau, yn enwedig pyngciau duwinyddol.
"Yr oedd efe yn ddadleuwr pwyllus a medrus iawn. Ni ddywedai fawr o'i olygiadau ei hunan ar y pwngc mewn dadl, os gallai beidio. Ond holai ei wrthwynebwr yn hynod o fanwl, gwasgai ef i gongl, a byddai yn dra sicr o fod yn rhwym ganddo mewn cadwynau yn dra buan, os na byddai a'i lygaid yn agored yn edrych ato'i hunan. Cefais ef bob amser yn gynghorwr, a chyfarwyddwr doeth a gwybodus, ac yn gyfaill cywir a charedig. Daeth gyda mi o Gefnmaelan i gapel Penarth, ger Llanfair, Maldwyn, ar adeg fy mhriodas; a bu ef a'r Parch. James Davies, y pryd hwnw o Lanfair, yn cydweinyddu ar yr achlysur. Byddai yn dda genyf weled ei wyneb siriol bob amser y cyfarfyddem a'n gilydd wedi i mi ddyfod i Lansantffraid; a mawr yr ysgwyd dwylaw a fyddai rhyngom. Ac y mae yn chwith genyf fyned i Ddolgellau heb ei gyfarfod fel arferol, i gyfarch gwell i'n gilydd. Ond nis gwelaf ef mwy ar y ddaear.
Marw mae nghyfeillion goreu,
Blaenu maent i'r ochr draw;
Draw ar diroedd rhyw wlad arall
Byddaf finau maes o law."