dorf fawr a safai y pryd hyny o'i flaen; rhedai afonydd o ddagrau dros ruddiau y gynnulleidfa, ac esgynai myrdd o ocheneidiau o galonau cynes hen adnabyddion; ac er galluoced Mr. J. i ddal amgylchiadau cyffrous, yr oedd hon yn ormod gorchwyl iddo yntau heb i'r dagrau weithiau ymddangos ar ei ruddiau a'i orchfygu ar brydiau gan ei deimladau. Yr oedd yr olygfa mewn gwirionedd yn darawiadol; cyn gweddio, darllenodd Mr. J. y llythyr canlynol, at yr eglwys a'r gynnulleidfa, ac nid rhyfedd, ei weled yn methu dal heb wylo wrth gyffwrdd â rhai hen adgofion:—
FY ANWYL FRODYR A CHWIORYDD YN YR ARGLWYDD,
Wrth adolygu y gorchwyl pwysig a gyflawnir mewn cysylltiad a'r eglwys Annibynol yn Nolgellau heddyw, y mae fy mynwes yn cael ei chwyddo gan deimladau cymysgedig, ac y mae lluaws o hen adgofion am y dyddiau gynt, a'r blynyddoedd sydd wedi myned heibio, yn ymdywallt ar draws eu gilydd ar fy meddwl.
Saith mlynedd a deugain i Galamai diweddaf—y pryd hyny yn ddyn ieuangc tuag 28ain oed-yr ordeiniwyd fi i'r weinidogaeth santaidd yn yr addoldy hwn, (ond ei fod ar ol hyny wedi ei adgyweirio rai gweithiau a'i helaethu). Yr oedd yr eglwysi a unent yn eu galwad mi y pryd hwnw, yn cynnwys Rhydymain, Brithdir, Cutiau gerllaw yr Abermaw, a Dolgellau; ac yr oedd Dolgellau yn cynnwys Islaw'rdref, Llanelltyd, a'r Ganllwyd, y rhai a ddenent i gymundeb i'r dref dros amryw flynyddau. Nid oedd yr aelodau eglwysig yn yr holl leoedd hyn yn nghyd, ond 113 mewn rhifedi, ac yr oedd yr holl addoldai, oddieithr Rhydymain, o dan lwyth trwm o ddyled. Parhaodd yr achos yn Nolgellau yn lled isel a gwanaidd dros amryw flynyddoedd, ond nid yn hollol ddigalon, trwy ffyddlondeb a diwydrwydd, graddol gryfhaodd, dygodd yr Arglwydd dystiolaeth i air ei ras, cynnyddodd y gwrandawyr, ychwanegodd yr Ysgol Sabbothol, ac amlhaodd yr aelodau eglwysig. Yn mhen tuag wyth mlynedd wedi fy sefydliad, annogais y cyfeillion yn y Cutiau, mewn undeb â Llanelltyd, i roddi galwad i Mr. Edward Davies, gynt o'r Allt, â'r hon y cydsyniodd, a bu yn gymeradwy dros amryw flynyddau, ac wedi hyny ymadawodd. Yn mhen ugain mlynedd ar ol hyny, annogais yr eglwysi yn Rhydymain a'r Brithdir, i roddi galwad i Mr. Hugh James, a'r hon y cydsyniodd, ac a lafuriodd yn gymeradwy iawn a llwyddianus hyd ei symudiad i Lansantffraid. Felly lleihawyd fy ngofalon gweinidogaethol i raddau yn y sefydliadau hyn; Dolgellau ac Islaw'rdref oeddynt bellach dan fy ngofal uniongyrchol, gan gydweinidogaethu â Mr. Ellis, yn awr o'r Brithdir, yn nghapel y Crynwyr, a Mr. Davies, o Drawsfynydd yn Llanelltyd. Ond fe ofyna rhyw un, A phaham y rhoddwch y weinidogaeth heibio yn y lleoedd hyn? Gallwn ateb, Fy mod yn ewyllysio ar fod Dolgellau ac Islaw'rdref yn un weinidogaeth, fel y mae wedi arfer a bod. Ac wedi i mi gael ar ddeall fod rhai personau yn eglwys y dref, yn tybied y gallaidyn ieu-