Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

angach na myfi, wneyd mwy o wasanaeth i'r achos yn ein plith nag a allwn i yn fy oedran presennol, dywedais yr ystyriwn hyny yn bwyllog; gwnaethym hyny, a deuais i'r penderfyniad o annog yr eglwys yn Nolgellau i edrych allan am ryw un cymhwys i'r weinidogaeth yn eu mysg, a phan y byddent hwy fel eglwys yn uno i roddi galwad iddo, y byddai i minnau hefyd arwyddo y cyfryw alwad, ac ymddiosg oddiwrth rwymau fy ngofalon gweinidogaethol, a'u cyflwyno i'm holynydd. Yn nechreu y flwyddyn hon ymwelodd Mr. Davies, yr urddedig, â Dolgellau, ar gais rhai o honom, a'r canlyniad ydyw, fel y gwelir heddyw, iddo dderbyn galwad unfrydol oddiwrthym, a chydsynio a hi.

Y mae fy meddwl yn rhedeg yn ol yn naturiol iawn heddyw at fy hen frodyr anwyl a hoff a gymerent ran yn ngwasanaeth fy urddiad, y rhai sydd oll bellach yn gorphwys oddiwrth eu llafur. Yr oedd yn bresennol y pryd hwnw, Jones, o Bwllheli; Jones, o Drawsfynydd; Hughes, o'r Dinas; Dr. Lewis, Llanuwchllyn; Roberts, Llanbrynmair; Griffiths, o Tyddewi, (y pryd hwnw o Fachynlleth); Lewis, o'r Bala; Davies, Aberhavesp; a Roberts, o Lanfyllin, &c., ond y maent hwy oll erbyn heddyw wedi syrthio trwy law angeu, a myfi fy hunan yn unig a ddiengais i fynegu i chwi. "Y tadau, pa le y maent hwy? Y prophwydi, a ydynt hwy yn fyw byth?" Yr oeddwn i y pryd hwnw yr ieuangaf yn mhlith fy anwyl frodyr, ond gwelaf heddyw fy mod yr henaf yn nghyfarfod urddiad fy olynydd yn Nolgellau. {{center block| <poem> "Gwyn eu byd fy hen gyfeillion,

Aeth o'm blaen i'r porthladd draw;

Ar eu hol hwy dros y tônau,

Moriaf finau maes o law."

{{center block| <poem> Y mae yr aelodau eglwysig hefyd, y pryd hyny a arwyddent fy ngalwad, wedi rhodio y llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelant, oddieithr ychydig o weddillion; pump yn unig sydd yn fyw yn Nolgellau; ac y maent hwythau fel finnau erbyn hyn yn sefyll bron ar "erchwyn y beddrod,"

"Yn disgwyl ar angeu i agor ein bedd."

Heddyw y mae fy ngofal gweinidogaethol dros yr eglwys yn Nolgellau ac Islaw'rdref yn terfynu, a'm hundeb a hwynt, fel eu bugail dros 47 mlynedd yr awr hon yn cael ei ddatod; ond y mae yr effeithiau i barhau yn dragywyddol, ac fe'u teimlir byth mewn anfarwoldeb. Gwelais lawer o gyfnewidiadau pwysig yn y 47 mlynedd y bu'm yn y weinidogaeth yn Nolgellau, ac fe welir gan ryw rai lawer etto, fe allai fwy, yn y 47 mlynedd nesaf. Hebryngais lawer o hen bererinion Seion hyd lan afon marwolaeth, ymdrechais ddal allan oleuni y llusern i'r Cristion yn nghanol niwl glyn cysgod angeu, ac mi a ddilynais eu helor hyd lan y bedd, ond ni a gydgyfarfyddwn etto yn y dydd hwnw," mi hyderaf, ar ddeheulaw y Barnwr. Mi a obeithiaf yn ol y gras a roddwyd i mi ddarfod i mi wasanaethu fy nghenedlaeth yn ol ewyllys Duw, ac na bu fy llafur oll yn ofer yn yr Arglwydd. Yr wyf yn awr yn ewyllysgar gyflwyno fy ngofal gweinidogaethol i fyny

Methai Mr. Jones adrodd y llinellau uchod gan ei deimladau.