Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn werth ei myfyrio yn dda. Pe byddai mwy o synwyr cyffredin, gwybodaeth, gostyngeiddrwydd, a hunan-ymwadiad yn ein plith, byddai cydweinidogaeth, dan amgylchiadau fyddont yn galw am hyny, yn fwy parchus ac yn fwy llwyddianus yn ein heglwysi nag ydyw; ac yn sicr y mae yn berffaith ysgrythyrol ac apostolaidd.

Heblaw cadw ei gylchoedd yn y ddau le a nodwyd, gyda diwydrwydd a ffyddlondeb difwlch, pregethai yr hen weinidog hybarch lawer ar y Sabbothau, ac ar ddyddiau eraill, mewn amrywiol fanau, pell ac agos, hyd derfyn ei yrfa.

Ymadawodd y Parch. T. Davies a Dolgellau, ac wedi hyny bu dda i'r gynnulleidfa yn y dref, a'r un arall yn Islaw'rdref, gael cyfranogi o ofal tadol eu hen arweinydd am rai blynyddoedd drachefn; a gwyr ysgrifenydd y llinellau hyn eu bod yn agos iawn at ei galon yn ei ddyddiau diweddaf, fel y buasent bob amser cyn hyny.

Byddai ef yn wastad at eu galwad i gadw cyfeillachau crefyddol, i ymweled a chleifion a thrallodedigion, i weinyddu mewn priodasau, bedyddiadau, a chladdedigaethau, ac i'w cynnorthwyo mewn unrhyw fater dyrus a thywyll. Yr oeddynt hwy yn gwybod am werth ei gynghor ef, ac yn awyddus am dano, ac yr oedd yntau yn barod i'w gwasanaethu hwythau ar bob achlysur.

Caiff y llythyr canlynol wneyd i fyny y gweddill o'r bennod hon. Ysgrifenwyd ef gan bregethwr parchus yn Nolgellau, am gymmeriad yr hwn yr oedd gan Mr. Jones y meddyliau uchaf. Er nad yw y llythyr i gyd ar bwngc y bennod hon, esgusoder hyny; ni feiddiwn ei dalfyru:—

At y PARCH. R. THOMAS, Bangor.

ANWYL GYFAILL,—

Cefais y fraint o adnabod Mr. Jones a bod yn ei gyfeillach, am tua phymtheng mlynedd ar hugain, yn ystod pa rai y cefais ef, bob amser, yn gyfaill cywir, ffyddlon, a gonest. Mae rhai dynion po fwyaf adnabyddus y deuir o honynt, mwyaf yr ydys yn ymbellau oddi wrthynt; ond nid dyn felly oedd Mr. Jones: na, po hwyaf y byddid yn ei gyfeillach ef, mwyaf yn y byd y byddid yn ei hoffi a'i garu; a byddai ei ymddyddanion, bob amser, yn rhydd, pwyllog, a difyrus, ac