Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blant y rhieni a ddymunent iddo wneuthur hyny, a chyflawnai bob dyledswydd grefyddol gyda diwydrwydd a gofal difwlch. Cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn yr hyfrydwch o dreulio rhan o dri diwrnod gydag ef yn ei dŷ, ac ar hyd y meusydd, oddeutu deng wythnos cyn ei farwolaeth. Ymddangosai y pryd hwnw yn weddol iach; ond crybwyllodd fod yn debygol nad oedd ei ymadawiad yn mhell. Gobeithiai ei gyfaill o'r ochr arall, y cyrhaeddai efe oedran ei dad a'i fam, a dywedai, na welai ond ychydig o arwyddion adfeiliad arno; ond yr oedd Mr. Jones, yn meddwl ac yn teimlo yn wahanol. Dywedai fod rhyw lesgedd a gwendid yn ei gyfansoddiad. Foreu dydd fy ymadawiad â Chefnmaelan, daeth i'm hanfon encyd o ffordd, i gyfarfod y cerbyd oedd yn myned tua'r Bala. Eisteddasom ar fin y ffordd i'w ddisgwyl. Dywedai wrthyf, ei fod yn myned i bregethu am Sabboth i'r Methodistiaid Calfinaidd, yn Llanuwchllyn, a bod hyny yn hyfrydwch mawr ganddo. Gyda hyny daeth y cerbyd. Ysgwydasom ddwylaw am y tro diweddaf. Canasom yn iach i'n gilydd, ac ni welais ef mwyach.

Yn ol ei fwriad, aeth am Sabboth i Llanuwchllyn, a dychwelodd adref am y tro olaf o'r ardal y magesid ef ynddi. Bu wedi hyny yn pregethu ar y Sabboth yn Tabor a'r Brithdir. Traddododd ei bregeth olaf oll yn y BRITHDIR, oddiar Luc xv. 2., brydnawn y Sabboth hwnw; a chan y teimlai yn lled wael, ni arosodd yno i bregethu yn yr hwyr, ond dychwelodd adref. Dywedasai lawer am ychwaneg na thriugain mlynedd, am barodrwydd y Gwaredwr i ymgeleddu pawb a ddeuent ato; a'r Sabboth hwnw, terfynodd ei weinidogaeth gyda phregeth ar y geiriau, "Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt." Diweddiad teilwng iawn i weinidogaeth y Patriarch o Ddolgellau. Peth difrifol hynod oedd gweled yr hen weinidog llafurus a ffyddlon yn disgyn o'r areithfa am y tro olaf am byth, ac yn dychwelyd i'w annedd i roddi ei ben i lawr i farw.

Nid oedd unrhyw afiechyd neillduol arno, ond bod ei gyfansoddiad yn ymddatod yn naturiol, fel y dderwen yn gwywo, am na all dderbyn nôdd i fod yn iraidd mwy. Felly yn