union, yr oedd yntau yn syrthio i'r bedd. Yr oedd y llygaid wedi blino yn edrych; y clustiau wedi clywed llawn digon; y tafod wedi llefaru nes diffygio; y dwylaw "ceidwaid y tŷ " yn llesgâu drwy hir wasanaeth, ac yn myned i grynu yn oerni a rhyndod y bumed flwydd a phedwar ugain o'u llafurus waith; y traed yn ymlonyddu gan ludded; yr ysgyfaint yn methu tynu anadliad arall; a'r galon lesg yn gorfod sefyll o eisiau nerth i daro ergyd drachefn.
Lled gynil a fyddai efe bob amser wrth adrodd ei brofiad crefyddol; ac felly, ni ddywedodd ond ychydig am hyny yn nychdod diwedd ei oes. Treuliodd ei fab, C. R. Jones, wythnos gydag ef yn nechreuad ei lesgedd. Wrth ymadael, awgrymai yr henafgwr wrth ei fab, "y byddai gyda ei hen gyfeillion yn y pridd yn lled fuan." "Wel, na; yr wyf fi yn gobeithio y cewch chwi wella etto," meddai y mab. "Wel," ebai yntau, "rhaid boddloni i'r drefn—y mae pob peth yn cael ei wneyd yn iawn. Nid oes dim o'i le yn mhenderfyniad y Brenin mawr." Felly, yr oedd ef yn berffaith dawel a boddlon i drefn Duw, ac yn credu fod y cyfan yn y drefn hono yn iawn ac yn ei le. Dywedai hyny o hyd pan oedd yn llafurio dan raddau o ddyryswch meddyliol, i'r diwedd. "Duw yn ei le yn mhob peth," oedd un o'i hoff syniadau ef ar hyd ei oes, a dyna un o'r egwyddorion a belydrai allan o'i feddwl yn niwedd ei daith; yr hon a orphenodd yn dangnefeddus brydnawn dydd Iau, Rhagfyr 5, 1867, yn y bumed flwyddyn a phedwar ugain o'i oedran, a'r eilfed a thriugain o'i weinidogaeth.
Cymerir y dernyn canlynol o'r nodiadau a wnaeth y "Gohebydd" ar ei farwolaeth yn y "Faner."
"Yr eglurhad mwyaf cywir o ddiwedd taith ac oriau olaf ein hen batriarch ydyw—iddo farw yn union fel y bu efe byw! Fel y dywedai pregethwr o negro yn Alabama wrth bregethu pregeth angladdol i hen chwaer o'r enw Sister Lavina—Fy ngwrandawyr," meddai, Sister Lavina just died as she lived that's all.' Felly yn union y bu Cadwaladr Jones:— 'He just died as he lived—that's all.'