Davies, Trawsfynydd, gan afiechyd, a dau frawd eraill gan amgylchiadau anorfod, i fod yn y gladdedigaeth. Dilynid yr elor—gerbyd gan tua deunaw o gerbydau, a lluaws ar feirch. Cerddai y dorfluosog hon yn araf, syml, a threfnus i, a thrwy y dref, a'r cantorion yn y canol yn canu eu tonau hiraethlawn. Gallem feddwl fod yr orymdaith, pan yn cerdded drwy y dref tua mil o nifer. Yr oedd gweled holl siopau y dref ar y pryd mor gauedig a phe buasai yn ddydd Sabboth, a ffenestri y tai oll ar bob llaw a'r blinds gwynion galarus yn eu gorchuddio, yn olygfa doddedig, ac yn anrhydedd i deimlad y dref, yn gystal ag i gymmeriad y marw. Mynych y gelwir arnom i wneyd ymddangosiad fel hyn yn y dref hon, fel mewn trefydd eraill, yn ddigon rhagrithiol, fel yr ymddangosom i ddynion.' Ond y diwrnod hwnw yr oedd ein tref am unwaith yn gwisgo ei galarwisgoedd oddiar wir deimlad calon, oblegid colli un yr oedd ei farwolaeth yn golled wirioneddol ac am byth i'r holl ardaloedd—colli Cristion diamheuol, colli gweinidog ffyddlon a rhyddfrydig, colli cyfaill cywir, colli cymmydog caredig, colli cynghorwr doeth a chynnorthwywr parod i bawb yn mhob amgylchiad. Chwyddai y dorf yn barhaus ar y ffordd i'r Brithdir, ac yn y fynwent, yno yr oedd o 1500 i 1800 o bersonau yn cydalaru eu colled o'r hen dad ymadawedig. Ofer oedd son am gynnal y gwasanaeth angladdol yn yr addoldy, ac felly, gan y caniatai y tywydd, cynnaliwyd ef allan yn y fynwent eang, gyfleus, gerllaw. Yr oedd y cyfan fel hyn yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr awyr agored, a 'Llygad mawr' y Nef megys yn edrych i lawr arnom mewn cydymdeimlad pruddaidd—y Duw a wasanaethasai yr hen weinidog ffyddlon megys uwch ein penau, yn anrhydeddu ac yn effeithioli y cyfan â'i bresenoldeb. Safai y gweinidogion a gymerent ran yn y gwasanaeth uwchben y bedd agored, a chorff eu hen gydweinidog yn gorwedd ynddo.
"Y dydd o'r blaen symudasid arch Mrs. Catherine Jones, ail wraig Mr. Jones, o'r Hen Gapel yn y dref, lle y buasai yn gorwedd am 23 mlynedd, a chladdesid hi yn y bedd hwnw lle y dodwyd ei hybarch briod. Y hi oedd mam ei holl feibion.