frodyr a chwiorydd yn ymuno âg ef yn claddu eu 'hen dad' yn mynwent y Brithdir y diwrnod hwnw, heb son am yr wyrion a'r gorwyrion ysprydol a anesid trwy y rhai hyny. Ymgasglasent yno o Ddolgellau, Rhydymain, Llanfachraeth, Tabor, Ganllwyd, Llanelltyd, Citiau, Islaw'rdre, a'r Brithdir, eglwysi rai o honynt a blanasai efe, a'r lleill oll y bu yn eu bugeilio, ac oll yn cydalaru am ei golli. Mae yn amheus genym y bydd gan ond ychydig iawn o'i frodyr yn y weinidogaeth yn Nghymru gynifer o blant ysbrydol—llawer eisoes oedd wedi ei ragflaenu adref, eraill sydd etto yn dilyn yn ddyfal ar ei ol—i fod yn 'goron gorfoledd' iddo yn nydd. Crist. Ymddangosai Mr. Jones, a'i lwyddiant nodedig fel gweinidog i ni er's blynyddau yn ffaith bwysig yn hanes y weinidogaeth Gristionogol a'r gyfundrefn Annibynol yn Nghymru. Ystyrir capel enwad arall yn y dref hon, ei fod ar y Sabbothau, ac ar achlysuron eraill yn ystod 56 mlynedd gweinidogaeth Mr. Jones yma, yn mwynhau gweinidogaeth 'hufen' pregethwrol Cymru. Dyma weinidog unigol, tawel, anymhongar capel yr Annibynwyr yma, ar y llaw arall, a'i ddoniau ei hun, na fynasai efe ei hun na neb arall eu cydmaru a doniau John Elias, John Evans, New Inn, Ebenezer Morris, John Jones, Talsarn, a chewri pregethwrol eraill, etto yn offeryn i godi eglwysi yn y dref a'r amgylchoedd sydd bron yn gyfartal yn nifer eu haelodau i eglwysi yr enwad breintiedig arall o fewn yr un cylch. Y mae hon, meddwn, yn ffaith bwysig a hynod—yn ffaith sydd yn siarad yn uchel iawn, yn anwrthwynebol, dros y rhan sefydlog, fugeiliol o leiaf, o'r gyfundrefn Annibynol.
"2. Catholigrwydd ei yspryd.—Nid oedd dim eglurach. na bod yspryd drwg 'sect' wedi ei fwrw allan o fynwent y Brithdir, am y pryd o leiaf, gan ein hadgof o yspryd ansectaidd a rhyddfrydig yr hen dad o Gefnymaelan. Yr oedd yr enwadau eraill megys yn ymgystadlu a'i enwad ef ei hun mewn ymdrech i amlygu parch eu calonau tuag ato. Gwelsom deimlad mor ddwfn mewn angladdau eraill, ond rieoed nis gwelsom deimlad mor gyffredinol. Ffaith eglur i