â pherlau pur o ddagrau. Pa beth a ddywedai golygfeydd fel hyn etto? Ond dacw olygfa draw acw sydd yn rhagori bron arnynt oll: meddwyn ydyw o Ddolgellau, hen feddwyn, un o ddihirod caletaf y dref, un na ddisgwyliasem iddo wylo ar ol neb na dim, ond am ei haner peint; dacw yr adyn caled, annuwiol acw am unwaith â 'llygaid cochion' gonest ganddo, yn anrhydedd, ac nid yn warth, i'w galon a'i gymmeriad. Pa beth a fuasai rhyngddo â'r hen gyfaill pechaduriaid' oeddym yn ei gladdu, i beri iddo wylo felly am dano, nis gwyddom. Dweyd y ffaith' yw y cwbl a allwn ni, a gadael i'r ffaith hono lefaru. Pa beth a ddywedai yr olygfa ddieithr hynod hon? I derfynu; torf fwy lluosog, fwy syml, fwy difrifol, fwy toddedig, yn amlygu mwy o deimlad calon tuag at y marw, nis gwelsom erioed. Nid oes neb ond gweision. Crist a all gael y fath afael dwfn a hwnw yn nghalonau dynion, yn enwedig yn Nghymru. Ni chânt hwythau chwaith y fath gladdedigaeth a hyn ond ar yr un telerau ag y cafodd yr hen weinidog yma ef—ei haeddu—trwy fywyd fel ei fywyd ef dros ei Arglwydd. Dacw yr olygfa ddyddorol acw etto o 23 o fyfyrwyr ieuaingc Athrofa y Bala yn dweyd eu rhan yn wir effeithiol am y marw fel gweinidog i Grist, fel duwinydd cadarn, ac fel noddwr ffyddlon i'r Athrofa, ac i bregethwyr ieuaingc, trwy ei oes. Ond er cryfed y demtasiwn i roi ei lleferydd i honacw etto, rhaid ymatal bellach.
Nos dydd y claddedigaeth, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Hen Gapel y bu Mr. Jones am 56 mlynedd yn gweinidogaethu ynddo, pryd y traddodwyd anerchiadau effeithiol nodedig ar yr hen weinidog gan y Parchn. O. Evans, Llanbrynmair; R. Jones, Llanegryn; I. Thomas, Towyn; E. Edmunds, Dwygyfylchi; J. Jones, Machynlleth; J. Jones, Abermaw; E. Evans, Llangollen; a Mr. J. Griffith, Gohebydd y Faner, rhwng teulu yr hwn â Mr. Jones yr oedd hen gyfeillgarwch.
Nos Sabboth canlynol, traddododd y Parch. R. Thomas, Bangor, bregeth angladdol alluog ac effeithiol iawn, ar Fywyd ei hen gyfaill, oddiar Heb. xii. 7, 8.