PENNOD VIII.
Y PREGETHWR.
"Gwr pwyllog synhwyrol"—Darluniad Christmas Evans—Y pregethwr—Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf—Nid newyddian yn y ffydd—Ei gymhwysder i adeiladu, yn hytrach na thynu i lawr—Ei ddelw ar ei eglwysi—Rhai oedfaon hwyliog—Yn marw fel y bu byw.
Pe gofynasid i mi i roddi darlun cryno ar fyr eiriau o nodwedd gwrthddrych y cofiant hwn, ni allaswn feddwl am ymadrodd mwy priodol i'r pwrpas na'r ymadrodd hwnw of eiddo y gŵr doeth:—"Gŵr pwyllog synhwyrol." "Gŵr pwyllog a synhwyrol" oedd efe mewn gwirionedd yn mhob man, ac ar bob achlysur, yn ei deulu, yn ei gymmydogaeth, yn yr eglwys, ac yn yr areithfa. Yr oedd cymhesuredd a chyfaintiolaeth yn holl elfenau ei nodwedd, a'r cwbl o dan reolaeth wastadol synwyr a phwyll. Cof genyf fy mod unwaith yn Nghaernarfon yn nghymdeithas y diweddar Hybarch Christmas Evans, lawer o flynyddau yn ol, pryd yr adroddai cyfaill hanes prawf pwysig a ddigwyddasai yn mrawdlys Dolgellau y dydd o'r blaen. Gelwid y Parch. C. Jones fel tyst ar yr achos. Yr oedd dan yr angenrheidrwydd i droi at ryw erthygl a ymddangosasai yn y Dysgedydd wrth ro'i ei dystiolaeth. Yr oedd golwg henafgwr parchus arno y pryd hwnw. Wedi myned i'r Witness box, tynai ei wydrau allan yn araf hamddenol; dododd hwy am ei wyneb, a throai ei olwg ar y barnwr, a'r cyfreithwyr, a'r rheithwyr, fel per buasai yn cymeryd stock o'r llys; a phawb yn edrych arno yn nghanol distawrwydd dwfn. Tynodd ei spectol yn mhen enyd, a chymerai ei napeyn o'i logell i rwbio a gloywi y gwydrau. Wedi eu cael i'r cywair priodol, edrychai drwyddynt yn dawel drachefn ar y barnwr a'r llys. Ac edrychai y barnwr arno yntau ac ar eu gilydd bob yn ail. Yna tynodd y Dysgedydd allan o'i logell, ac araf dröai at yr erthygl, mor ddigyffro meddai'r adroddydd, a phe buasai yn eistedd ar ei hen gadair ddwy—fraich ar ei aelwyd gartref. Ar hyny, torai yr hen Gristmas Evans allan, gan waeddi, "Cadwaladr gyffroi! Na choelia i fawr! Pwy welodd Cadwaladr yn cyffroi erioed!