oedd y "Corff o Dduwinyddiaeth," a'r Esboniad ar yr Efengylau a llyfr yr Actau, yn nhai Pennantlliw-bach; a chyn iddo ef fyned i'r weinidogaeth, yr oedd Esboniad Dr. Lewis ar y Rhufeiniaid wedi dyfod o'r wasg; ac nid gormod yw dywedyd fod y llyfrau buddiol hyn yn cael eu hastudio yn fanwl yn yr ardal; ac yn mysg eraill, yr oedd yntau yn dra chydnabyddus â hwynt. Cynnwysai y llyfrau a nodwyd fêr gweinidogaeth yr Hen Gapel, yn enwedig y "Corff o Dduwinyddiaeth," a'r Esboniad ar y Rhufeiniaid. Felly, wrth ddarllen llyfrau duwinyddol, yn cael ei amgylchu gan gymmydogion duwinyddol, a than weinidogaeth dduwinyddol gref a goleuedig, nid ydym yn rhyfeddu fod Mr. Jones wedi ei dueddu yn foreu i astudio duwinyddiaeth yn fanwl a thrwyadl, heblaw pwysfawredd y mater ei hun, yn ngolwg dyn pwyllus ac ystyriol fel ydoedd efe.
Ac heblaw y pethau a nodwyd, yr oedd dadleuon mawrion yn cael eu dwyn yn mlaen rhwng y Calfiniaid â'r Arminiaid, pan oedd efe yn cyfaneddu yn Llanuwchllyn, ac yn yr ysgol yn Ngwrexham, ac yr oedd hyny yn sicr o droi nerth ei feddwl at byngciau yr athrawiaeth. Yr oedd y pregethwyr ieuaingc a'r gweinidogion y cyfeillachai efe â hwynt, pan oedd ei nodwedd feddyliol yn cael ei ffurfio, megys, Hugh Pugh, o'r Brithdir; William Williams, Cwmhyswn, wedi hyny o'r Wern; John Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, o Dowyn a Llanegryn, wedi hyny o Fachynlleth; D. Jones, Treffynnon; John Lewis, Bala; a James Griffiths, o Fachynlleth, y pryd hwnw, ac wedi hyny o Dy Ddewi, oll yn astudwyr duwinyddiaeth; a diau, iddynt hwy fod yn offerynau i gryfhau tuedd naturiol ei feddwl yntau i chwilio "beth a ddywed yr Ysgrythyr" ar bob peth perthynol i'r grefydd Gristionogol. Dylid cofnodi yn mhellach, fod Dr. Williams, o Rotherham, wedi cyhoeddi pregeth ar "Ragluniaethiad i Fywyd," gyda nodiadau manwl a meistrolgar ar ei diwedd, yn nechreu y ganrif hon; a deffroasai y bregeth hono lawer o bobl feddylgar yn Lloegr a Chymru, i fyfyrio yn fanylach nag o'r blaen ar byngciau crefyddol. Heblaw hyny, yn y flwyddyn 1809,