Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dysgedydd, ar Arfaeth Duw, ac Etholedigaeth gras, rhwng y Parchedigion J. Roberts, D. S. Davies, o'r ochr Galfinaidd, a Sion y Wesley, o'r ochr Arminaidd, a gwnaeth y Golygydd sylwadau synhwyrlawn ar ei diwedd. Yn mhen ugain mlynedd wedi hyny, bu dadl faith ar yr un pyngciau, ac yn yr un misolyn, rhwng E. H., ac R. J.; ac ar derfyniad y ddadl hono, hefyd, gwnaeth y Golygydd sylwadau sydd yn dangos yn eglur beth oedd ei olygiadau ef ar Arfaeth ac Etholedigaeth. Gan fod y sylwadau diweddaf hyn o'i eiddo o gryn bwys, ac wedi cael eu hysgrifenu ganddo pan oedd ei feddwl wedi addfedu drwy hir fyfyrdod ar y ddwy ochr i'r ddadl, ni a'u rhoddwn yma ger bron ein darllenwyr. Mae eu gwerthfawredd yn esgusawd digonol dros eu meithder. Buasai yn well genym eu cael heb y ffurf ddadleuol sydd arnynt: ond barnasom nas gallasem newid y ffurf hono heb wneuthur cam a'r Awdwr; ac am hyny cant ymddangos yn y dull y daethant odditan ei law ef ei hun.

ETHOLEDIGAETH

Sylwadau ar y ddadl a fu rhwng Meistri Ellis Hughes, a Robert Jones, yn y Dysgedydd am y blynyddoedd 1845—6. Wrth ddarllen yr holl ddadl, tueddir ni i wneyd y sylwadau canlynol:—

I. PA ETHOLEDIGAETH SYDD MEWN DADL.

1. Nid Etholedigaeth i swyddau gwladol nac eglwysig, mewn amser na chyn amser, ydyw; megys y golygir yn 1 Sam. x. 24; Ioan vi. 70.

2. Nid Etholedigaeth i freintiau gwladol na chrefyddol ydyw, megys y dywedir am genedl Israel yn 1 Bren. iii. 8; Esay xli. 8, 9.

3. Nid yr anwylder a ddengys yr Arglwydd mewn amser tuag at ei bobl wedi eu dygiad i gymmod ag ef yn Nghrist ydyw. Gelwir rhai yn etholedigion o herwydd eu dygiad i sefyllfa o anwylder gan Dduw, ac nid fel etholedigion yn arfaeth dragwyddol Jehofa. "Etholedigion Duw, santaidd