Y mae cylch Etholedigaeth ac arfaeth drachefn yn gyfyngach na chylch Hollwybodaeth. Cyrhaedd hon at y drwg yn gystal. a'r da, ac at holl greaduriaid Duw yn gystal a dynion; ond nid yw yn achosi dim—da na drwg, nac un creadur rhesymol nac afresymol mewn bodolaeth.
3. Y mae Etholedigaeth wedi achosi yn Nuw, ac nid yn neb o'r rhai a gedwir. Y mae R. J. yn priodoli yr achos o etholiad i "rinweddau dyn o hono ei hun," fudal. 49, bl. 1846. Ystyria efe Etholedigaeth yn dal perthynas â gweithredoedd, megys edifarhau, caru, credu yn Nghrist, &c. neu, mewn geiriau eraill, bod Duw wedi penderfynu er tragwyddoldeb achub y rhai a edifarhant, ac a gredant yn Nghrist "o honynt eu hun— ain." Gwir fod R. J. yn ei atebiad i'r gofyniad, "Pwy sydd yn dwyn dynion i edifarhau a chredu?" yn dywedyd yn tudal. 49, bl. 1846, mai "Duw trwy weinidogaeth yr efengyl a'r Ysbryd Glân" sydd yn eu dwyn i gredu. Ond nid yw yr Ysbryd Glân, yn ol ei farn ef, ddim amgen na moddion moesol, neu weinidogaeth moddion achub, yr hyn a iawnddefnyddir gan y rhai a gedwir, ond a gamddefnyddir gan bawb eraill yn ngwlad efengyl; herwydd haera R. J. fod yr annghredinwyr a all fod yn nghynnulleidfa Bryn Sion yn meddu yr un manteision a dylanwadau yr efengyl a'r rhai sydd yno yn credu—na wnaeth Duw ddim i'r naill yn fwy na'r llall cyn iddynt gredu, ond fod pawb of honynt yn meddianu gweinidogaeth yr efengyl a'r Ysbryd fel eu gilydd. Yn awr, onid naturiol yw gofyn, Beth yw yr achos fod rhai yn iawnddefnyddio y moddion moesol sydd ganddynt, pan y mae eraill yn eu camddefnyddio? Dichon yr ateba rhai—1. Mai goruwchlywodraeth yr Ysbryd Glân ar weinidogaeth moddion ydyw yr achos—fod ganddo ffordd ddirgelaidd i wneyd i amgylchiadau a phethau gydgyfarfod fel y maent yn sier o ateb eu dyben, sef dwyn y cyndyn yn ufudd.
2. Mai gwaith uniongyrchol yr Ysbryd Glân ar yr enaid, mewn cysylltiad â gweinidogaeth yr efengyl, yw yr achos. Credwn ninnau fod gan yr Ysbryd Glân ffordd deilwng o hono ei hun. i weithredu ar yr enaid mewn cysylltiad â moddion moesol,