5. Y mae yr Etholedigaeth hon mewn cysylltiad a dyledswydd dyn. Dywed llawer un, Os ydwyf wedi fy ethol ni waeth i mi fyw yn fy mhechodau na pheidio, byddaf yn sicr o fyned i'r nef; ac os nad wyf, nid oes modd i mi fyned yno pe byddwn fyw mor dduwiol a Job! Nagê, nid yw hyn amgen nag ysgaru yr hyn a gysylltodd Duw â'u gilydd. Y mae y moddion a'r dyben wedi eu cysylltu â'u gilydd yn arfaeth Iehofah, megys yn yr amgylchiad a grybwyllir am Paul a'r rhai oedd gydag ef yn y llong, Act. xxvii. 22, 23. Dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, "Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig." Hysbyswyd ef gan angel yr Arglwydd yn flaenorol "na byddai colled am einioes un o honynt, ond am y llong yn unig." Pe buasai Paul yn ymddwyn fel y mae llawer yn siarad yn ein dyddiau ni am Etholedigaeth gras, buasai yn dywedyd, Y mae Duw wedi fy hysbysu na bydd colled am einioes un o honom; am hyny gellwch fod mor ddiofal ag y mynoch, a myned allan o'r llong i'r bâd os mynwch; ni bydd colled am einioes un o honoch. Ond ni ddywedodd fel hyn, ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Rhybuddiodd hwy dan berygl bywyd i aros yn y llong-os nad arhosent nas gallent fod yn gadwedig. Felly y mae Duw wedi bwriadu achub y rhai oll a achubir, a'u dwyn i lwybr cadw-edifarhau am bechod-cilio oddiwrtho-credu yn Nghrist-byw yn dduwiol, &c., mewn trefn i fod yn gad- wedig; a chyhoedda y bygythion trymaf uwch eu penau os anufuddhant; a hyn oll er eu dwyn i, a'u cadw ar lwybr y nef a diogelu eu bywyd. "Nid yw hyn yn brawf," fel y dywed R. J. tudal 49, "fod yn bosibl i rai wedi eu hethol gan Dduw fod yn fyr o gyrhaedd iachawdwriaeth." Y mae hyn yn wir am lawer a etholwyd i freintiau yr efengyl; ond y mae allan yn hollol o'r pwnc mewn dadl.
6. Y mae yr Etholedigaeth hon yn hollol gyson â galwad cyffredinol yr efengyl, yn nghyda'r arferiad o holl foddion achub tuag at bawb. Ond dichon y beia R. J. arnom am son am "foddion achub, moddion addas, moddion digonol, &c.,