Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd fel Mozart, ac un arall mewn un fwy afrwydd a chymleth fel Beethoven; ond y mae'n bod, yn wastad, gyda gwahaniaeth graddau'n unig. Lle na byddo'r berthynas hon,—pan fyddo'r cyfansoddwr, drwy ddysg, yn gwneuthur ar yr wyneb, ac yn cynhyrchu cyfuniadau o nodau yn unol â "deddfau dynol,"—yna nid yw'r gwaith o wir werth, ddim "o'r un waed a'r awen wir "—yn hytrach, perthyn y mae i'r byd sydd "a'i ddull yn myned heibio," nid i fyd "y dragwyddol gân."

Eto, gall y gwaith o gyfansoddi fynd ymlaen yn unigeddau'r dwfn pan fyddo yna lawer o grychni ar yr wyneb yn unig y mae'n rhaid i'r symudiadau ar yr wyneb beidio â chynhyrchu terfysg ac anhrefn. Dysgir ni gan feddyleg ddiweddar fod ein hisymwybyddiaeth nid yn unig yn ystordy, ond hefyd yn weithdy, ac fod yna weithio a dwyn i fod yn mynd ymlaen yno hyd yn oed yn ystod oriau cwsg. Yr oedd Wagner yn gyfarwydd â'r wedd feddylegol hon i'r mater. Mewn un man dywed "Yr oedd hyn oll yn suddo i'r meddwl ac yn addfedu'n raddol "; ac ymhellach: "Ymddangosodd syniad (conception) Lohengrin yn sydyn ger fy mron yn ei gyfanrwydd perffeithgwbl"-er y deuthai'r syniad dechreuol ohono iddo amser cyn hynny. Felly pan mae Islwyn yn canu

"Pan y myn y daw,
Fel yr enfys a'r gwlaw,"

rhoddai deall hyn yn llythrennol olygiad llawer rhy beiriannol a gwrth-fywydegol inni am weithrediadau ysbryd y gwirionedd ynddynt yw mai'n sydyn yn aml yr ymddengys yr hyn oedd yn bod ac yn tyfu o'r blaen yn y dwfn uwchlaw "trothwy" ymwybydd- ychydig o'r hyn a allent ac a deimlent."