Gwanwyn' bob nodyn, rwy'n credu. Lle rhamantus iawn: dim ond y dolydd, yr afon, y bryniau, a'r coed."
A phan ofynnodd Mr. Lewis iddo, wrth sôn am Eirinwg: "Oes dim modd cael hanes pa fodd y daeth y dôn ardderchog hon i fod ?"
"Wel," ebe yntau, "tebig i hyn: daeth cais oddiwrth Mri. Hughes & Son, Gwrecsam, am dôn ar yr emyn
'O arwain fy enaid i'r dyfroedd—
Y dyfroedd sy'n afon mor bur.'
Ar brynhawn hyfryd yn yr haf gosodais lyfr emynau S.R. oeddwn wedi gael yn anrheg gan fy mam pan yn fachgen, yn fy llogell, ac aethum i gyfeiriad y wlad o dwrf y dref. Eisteddais ar gamfa, ac yno yng nghwmni cor y wig a golygfeydd natur, daeth y dôn Eirinwg' i fodolaeth. Ni newidiwyd yr un nodyn arni."
Ond er na newidiwyd nodyn o Eirinwg, nid oedd ef yn cyfrif ar hynny'n gyson—credai mewn caboli a pherffeithio (gyda Beethoven), fel y dengys y sylwadau a ganlyn o blith llawer o rai tebig (mewn llythyr at Mr. Lewis):—
"Credaf mai ein man gwan ni fel cenedl—mewn ystyr gelfyddol—yw diffyg amynedd i berffeithio ein gwaith, a'i brofi yng ngoleuni gramadeg a deddf, bob iod o hono. D'wedwn y gwna'r tro,' pan y gallwn wneud yn well gyda phenderfyniad, ac 'fe basith,' er ein bod braidd yn siwr na ddaliai gael ei ramadegu—ei barsio'n fanwl. Dywedodd rhywun mai ystyr genius yw an infinite capacity for taking pains'; nis gellir tanysgrifio