Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gywirdeb hollol y deffiniad yna ond cynhwysa gryn lawer o wir, ac o wir o werth neilltuol i ni. Pwnc arall gwerth i ni ei ystyried y dyddiau hyn yw eglurder a destlusrwydd, a byddai'n llawer o beth i rai o'n cerddorion, pe baent wedi eu geni mewn gwlad lle na sonid am Berlioz na Wagner, na neb o'r cyfryw! A byddai dogn lled helaeth o Mozart yn iechyd i'w hesgyrn—oherwydd gwyr yr esgyrn ydynt gan mwyaf, ac esgyrn sychion iawn hefyd!"

Eto, er ei fod yn gwneuthur y defnydd goreu o'i gyfleusterau i gyfansoddi, ac yn cael ffrwyth o'i lafur mewn mwy nag un maes, y mae'n ddiau fod y sylwadau a ganlyn o'i eiddo ar Ambrose Lloyd, a wnaed yr adeg hon (1875), yn datgan ei deimladau ef ei hun yn wyneb anghyfleusterau'i fywyd:—

"Lled debig fod hanes ei fywyd yn agos yr hyn yw eiddo'r cyfansoddwr Cymreig yn gyffredinol,—ymdrafferthu yn galed ynglyn â gorchwylion y byd fel mater o fywoliaeth, lladrata ychydig oriau mewn snatches yma a thraw at lenyddiaeth, a myned i orffwys heb fynegi mo'r hanner,' na gadael dim ar ol i'w anwyliaid ond ei enw ac ychydig weithiau gwasgaredig.

"Pe o dan amgylchiadau mwy manteisiol mae yn anodd dweyd pa nifer o geinion ychwanegol a fuasai y meddwl toreithiog a gynhyrchodd 'Gweddi Habaccuc,' 'Y Blodeuyn Oiaf,' etc. wedi ein anrhegu a hwynt; ac yn y fan hon nis gallwn lai na nodi ein cred fod Mr. Lloyd yn esiampl neilltuol o'r rhai a ffarweliant a'r esgynlawr ddaearol hon heb draethu ond ychydig o'r hyn a allent ac a deimlent."