Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XII.
CARTREF A CHYFEILLION.

HYD y flwyddyn 1878 bu ef heb gartref "iddo'i hun," ag eithrio ymgais a wnaed ganddo ef, a dau gyfaill ar y ffordd," sef Wm. Owen ac Owen Owen, i gadw tŷ yn Abertawe, fel man canolog i'w teithiau. Yr oeddynt hwy'n gyfeillion cynnes a chydnaws, a pharhasant felly hyd y diwedd; ond wedi peth amser, meddyliodd un o'r tri fod dau'n well nag un (ac yn well na thri); dilynwyd ef yn fuan gan un arall o'r tri, a thorrwyd y cartref hwnnw i fyny. Bu Mr. Wm. Owen farw rai blynyddoedd yn ol; yr oedd Mr. Owen Owen yn un o'r rhai a gludai'r arch a'i gweddillion yn angladd Emlyn.

Yn 1878 priododd â gweddw ei gyfaill Mynyddog, merch y Parch. Aaron Francis (Aaron Mochnant) —un a fu, drwy ei hanianawd gerddorol, ei doniau cymdeithasol, a'i rhinweddau eraill, yn gymar ffyddlon iddo am 35 mlynedd. Buont fyw am ddwy flynedd. yn yr Amwythig, ac yna symudasant i Hen ffordd, lle yr arosasant hyd 1894. Penderfynid eu dewisiad o fan i fyw gan ystyriaethau masnachol yn bennaf—yr oedd eisieu man canolog i'w gylchdaith ef lle y gallai ddychwelyd o leiaf unwaith yn yr wythnos; ac i fesur hefyd, gan ystyriaethau eraill—naws a theimlad tuagat y lle.

Er na chynhyddodd rhif y teulu, ni fu erioed dŷ'n dioddef llai oddiwrth unigrwydd neu lonyddwch, gan faint y rhai a alwai neu a arhosai yno. Yr oedd ganddynt ill dau allu eithriadol i ymdaflu ac ymdoddi