Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gwmnïaeth gydnaws—i roddi eu hunain i fyny i'r gwaith o fod yn ddiddorol a defnyddiol i eraill, gan wneuthur y defnydd goreu ohonynt hwythau, mewn ymgom neu gân, stori neu ddadl ddifyr, fel y byddai'r awel yn chwythu.

Yn eu tŷ yn Henffordd arhosai yn wastad yr Joseph Parry a Dd. Jenkins yn ystod eu hymweliadau â'r dref adeg gŵyl gerddorol y Tri Chôr. Cawn ryw gipolwg ar natur y gwmnïaeth gan Mr. Jenkins

"Meddai galon hael, mewn ystyr ariannol, oherwydd lle gwelai angen, rhoddai yn ewyllysgar o'r ychydig oedd ganddo, ac yr oedd y croesaw i'w gyfeillion pan o dan ei gronglwyd yn ddibrin, a gwyddai y ffordd i'w gwneud yn hapus a dedwydd. Treuliasom lawer i orig ddedwydd dan ei gronglwyd pan yn ymweled â Gwyl Gerddorol y Tri Chôr yn Hen ffordd. Buom yno mewn pedair gwyl, a Dr. Parry ddwywaith gyda ni. Rhyfedd iawn, ni ddeuai i fwy nag un o'r cyfarfodydd allan o'r deu-ddeg gynhelid, pan yr ai Parry a ninnau i rai o'r rehearsals, cystal a'r perfformiadau. Unwaith llwyddasom i'w gael gyda ni i glywed Albani yn y 'Creation,' a'r noson hono gwahoddwyd Proffeswr Prout a Mr. Barrett, y Flautist, i'n cyfarfod i gael swper yn ei dŷ, ac yr oedd hono yn noson fawr yn ein hanes i gyd,—' big night,' ys dywedai yntau. Fel hyn, ychydig o gyngherddau ai iddynt hyd yn nod yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac os ai, nid arosai byth i'r diwedd, os na fuasai gweithiau rhai o'i ffryndiau yn cael eu perfformio. Gadawai feirniadaeth y rhai hyn, yn nghyd a rhai y gwyliau cerddorol yn gyfangwbl i ni bob amser. Yr ydym wedi cyfeirio mewn lle arall at un ymweliad o