Dr. Parry â Henffordd, pan y daeth a full score Saul o Tarsus' gydag ef, ac ni chaed dim ond sôn am 'Saul' hyd nes i Emlyn fygwth mynd i'r gegin, a Parry fel plentyn yn addaw na wnai sôn rhagor, ond boreu tranoeth yn dod a'r gyfrol fawr a'i gosod ar y bwrdd o'i flaen yn llawn direidi. O ddedwydd ddyddiau! mae hiraeth calon arnom ar eu hôl. Ni ddychwelant byth mwy, ac y mae'r ddau gyfaill talentog a dyddorol yn gorwedd yn ddigon tawel, ond mae'r gân ganwyd ganddynt eto'n fyw, ac a fydd am oesau fel adsain pêr rhwng bryniau'n gwlad."
Cefais y pleser o fod yno unwaith yr un pryd a Dr. Parry yn ystod yr ŵyl, a dyna'r tro y gwelais ystyr yr ymadrodd "y dragwyddol gân." Yr oedd gan Parry ryw waith mawr mewn llaw y pryd hwnnw yn ogystal, a chofiaf yn dda am faintioli a phwysau'r cyfrolau; ond yr hyn oedd hyfrytaf yng ngolwg dyn ieuanc nad oedd yn gallu eu dilyn i gyfrinion y gân oedd y dull syml a brawdol o ganu a beirniadu y gwahanol rannau. Gwir fod Parry'n llawn o'i waith a'i syniadau ei hun, a chlywais hyn yn cael ei gondemnio fel myfiaeth, ond myfiaeth oedd, o leiaf yn y cysylltiadau hynny, heb ddim yn foesol atgas o'i chylch—myfiaeth yr eos yn ymgolli yn ei chân mewn anghof o bopeth arall. Dangosir nad oedd dim yn fombastaidd a thrahaus o'i chylch gan ei waith yn cludo'i gopiau trymion i Henffordd er mwyn cael barn a chydymdeimlad ei gyfeillion yno. Un noson gwahoddwyd arweinydd y gerddorfa i fewn, ac yr oedd honno'n "noson fawr" hefyd, os canu hyd oriau mân y bore sy'n gwneuthur noson yn fawr.
Gwir fod yr adegau hyn yn rhai eithriadol, ond ar