raddfa lai digwyddent o hyd ac o hyd. Dyma enghraifft o'i ddull arferol o roesawu cyfeillion, o un o'i lythyrau at yr Athro Jenkins
"Yn awr, gyda golwg ar ddod yma: pam na ddenwch yr wythnos nesaf? Y mae'r tywydd yn hyfryd yn awr, ac yr ydym yn cael ein te prynhawnol allan ar y lawnt, tan y goeden onnen sy'n awr yn llawn dail. Cyn hir tyr y tywydd i fyny, ac unwaith y gwna, gallwn gael tymor hir o wlaw ar ol yr holl heulwen yma. Os deuwch cyn cychwyn eich cwrs (yn y Coleg) fe a'ch adnewydda ar ei gyfer. Fedrwn i ddim dal y stwr dychrynllyd sydd yn yr ystryd yna yn y bore, a byddai'r crowd ar y Terrace ac ymhobman yn gwneud bywyd yn boen i mi."
Yr ydym yn ddyledus i Dr. Protheroe am yr atgofion a'r nodiadau a ganlyn ar Emlyn fel cyfaill:—
"Pan ar dro yn yr Hen Wlad, cefais fy hun, yng nghwmni y diweddar Proffeswr David Jenkins yng Ngorsaf Glandovey Junction, ar ein ffordd i'r Eisteddfod Genedlaethol gynhelid y flwyddyn honno yn Ffestiniog. Meddai fy nghyfaill: "Yr wyf yn disgwyl Mr. Emlyn Evans i'n cyfarfod yma, ac yna awn yn gwmni diddan i'r wyl.' Dyna fy nghyfarfyddiad personol cyntaf â'r awenydd hyfryd, er fod llawer gohebiaeth wedi pasio rhyngom. Yr oeddwn wedi cael y pleser o'i wel'd cyn hynny, gan ei fod ef yn un o feirniaid Eisteddfod Abertawe yn 1880, a minnau yn llwyddo i ennill y wobr ar ganu'r unawd Alto Onid oes balm yn Gilead' (Owain Alaw). Yr oedd y cyfarfyddiad hwnnw yng Nglan Dyfi yn ddechreu cyfnod o gyfeillgarwch pur; a bydd i mi, tra bwyf byw, gael aml i orig