Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felys wrth atgofio llawer tro hapus yn ei gwmni diddan yr ymweliadau â Chemmes—y tro doniol pryd yr euthum, ar ddamwain, drwy preserves rhyw ŵr bonheddig yn agos i Ddinas Mawddwy. Mawr yr ysmaldod a'r miri—fel y dywedai: 'Fe fyddai yn ddoniol o beth pe bai y plismon a'r cipar yn ein cymryd i fyny fel poachers—a'r newydd yn cael ei yrru i'r Amerig.'.

"Fe gofiaf yn dda am y croesaw cynnes, a'r amser diddorol gafwyd yn ei gartref ym 'Mron y Gân. Mor nodweddiadol yr enw! Yr oedd yno galon dan y fron, calon a gurai yn llawn o garedigrwydd diymffrost. Yr oedd amgylchoedd Bron y Gan yn ddeniadol, ac nid rhyfedd i rywun ganu—

'O! mae'r ardd o flaen y drws
Yn arlun tlws o Eden,
Hawdd yw gwel'd oddeutu'r lle
Ei fod yn gartre'r awen;
Yn y gwrychoedd gylch y ty
Cerddoriaeth sy'n mhob deilen.'

Yr oedd Emlyn yn gyfaill sylweddol—nid un ar yr wyneb. Nid oedd dim yn ormod iddo wneuthur, os byddai drwy hynny yn gallu bod o wasanaeth. Credai mai y ffordd sicraf i ennill serch ydoedd drwy roddi serch. Nid pawb, er hynny, fedrai gael mynd i mewn i gysegr santeiddiolaf ei gyfeillgarwch. Ond i'r rhai a anrhydeddid â'r agoriad o'r cyntedd, yr oedd y cymundeb yn llawn swyn a'r gymdeithas yn felys. Rhoddai i mi gipolwg ar agwedd gerddorol Cymru Fu.' Aed dros hanes lawer, ac fel yr ysgrifennai ef ei hun ryw dro: 'Am yr ystorïau a adroddwyd, a'r chwedlau a ail gyfod-