wyd, y barnedigaethau ar bob peth a phawb mewn llên a chân, byd ac allan o'r byd, a draddodwyd, a'r oll heb falais na sèn, a maent yn ysgrifenedig ar lechau y côf yn unig, ac i aros yno yng nghudd oddiwrth allanolion fodau.
'If happy be myself and mine,
What matters that to thee and thine.'
Cymerai ddiddordeb yng ngwaith ei gyfeillion, holai'n fanwl am eu hynt, ymgynghorai â hwynt, rhoddai awgrym parth y tebygolrwydd o lwyddiant yr anturiaeth hyn, neu'r ymgais arall;
rhoddai gyfarwyddiadau clir sut i gyhoeddi gweithiau,—mewn gair, yr oedd yn bopeth i'w gyfeillion. Pan yn gohebu â mi, cai symudiadau y byd cerddorol le pwysig yn ei lythyrau, a thrwy hynny yr oeddwn, er yn byw ymhell o'r Hen Wlad, drwy ei garedigrwydd yn cael fy nghadw yn bur gynefin â'r hyn a ddigwyddai ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau Cymru. Ymhyfrydai mewn rhoddi cyfarwyddyd i gerddorion ieuainc. Os byddai angen help llaw ar neb teilwng, gellid apelio at Emlyn, mewn llawn hyder y ceid yr hyn ofynnid ganddo. Yr oedd yn hollol ddidderbynwyneb, a dywedai'r gwir wrth ffrynd yn ogystal a gelyn. Yr oedd yn Gymro trwyadl, carai ei wlad yn angerddol, a'i deimlad oedd
'Mewn adfyd a hawddfyd, mewn gaeaf a haf,
Mae 'nghalon yng Nghymru ple bynnag yr âf.'
Un tro, ar ol i mi ymweled â Glannau'r Teifi, ysgrifennai ataf:—