Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Llanwrtyd,
Ion. 3, 83.

Fy Anwyl Gyfaill,

Derbyniais yr eiddot yn Llundain, a'r darnau i blant a'th lythyr yma. Da gennyf ddweyd i mi allu myned drwy y daith a'r gwaith yn bur lew; ond taith ofnadwy oedd honno i Penmachno. Mi groesais y mynydd o Dolyddelen, ac yr oedd hi yn gwlawio yn ofnadwy, a'r grug yn wlyb, nes yr oeddwn yn wlyb hyd odreu y got yn bur fuan. Nid oedd yno ond llwybr anodd iawn ei ddilyn, a dim ond ambell i ddafad a grugieir yn fy nghyfarch yr holl ffordd. Pan ar y very top daeth awel o wynt a chymerodd fy umbrella i ffwrdd gyda hi, ac yr oedd yn myned mor gyflym, ac yn twmblo mor ofnadwy, a minnau yn rhedeg nerth traed ar ei ol ac yn methu yn deg a dyfod yn agos iddo—yr oeddwn wedi rhedeg cyhyd ag oddi yma i'r Station yma neu ragor drwy y brwyn a'r grug a'r pyllau, heb edrych ym mha le yr oeddwn yn gosod fy nhraed i lawr, oblegid nid oedd waeth gan nad allwn fyned yn wlypach-fel yr oedd golwg ddoniol arnaf, ac ni wyddwn pa un ai llefain ai chwerthin, ai rhegu (a wnawn). O'r diwedd, dyma fo dros ryw ddibyn o'm golwg, ac yr oeddwn wedi ffarwelio ag ef yn fy meddwl, ond erbyn cyrraedd i'r fan, dyna lle'r oedd yn dawel ei wala islaw y clogwyn yn y cysgod, ac yn ddianaf Helynt ryfedd wir—a'r hen grugieir yn tarfu i ffwrdd o'm blaen ac yn gwneud swn tebyg iawn i "Ha, Ha, Ha, Jack, Jack, Jack." Ond tase gen i ddryll mi roiswn i Jack i rai ohonynt. Wedi cyrhaedd ol i'r llwybr a cherdded cryn dipyn ar hyd-ddo,