Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Trydydd Cyfnod, 1880-1913.

XIII.
GWASANAETH

CROESWN i gyfnod newydd yn hanes ein gwrthrych tua'r flwyddyn 1880. Wrth gwrs, nid yw'n bosibl tynnu llinell glir a sicr rhwng cyfnod a chyfnod ym mywyd dyn. Fel y ceir llygedyn o sirioldeb gwanwyn, a glesni gwybr a mwynder awel Mai yn aml yn Chwefrol, felly'r ymwthia cyfnod y dyn i fywyd y llanc yn wyrgam a thoredig: nid yn unig "mae'r llanc am fod yn ddyn," ond y mae'r llanc yn ddyn ar brydiau, cyn cyrraedd oedran gŵr.

Dechreuodd Emlyn wasanaethu fel beirniad mor fore ag 1867, yng Nglyn Ebwy. Yn 1868 ymddengys ei feirniadaeth gyntaf yn y Cerddor Cymreig ar y dôn yng Nghefn Cribwr, pryd y rhannwyd y wobr rhwng John Thomas a Dd. Lewis. Yr un flwyddyn cawn Eos Morlais yn cystadlu tano yn Nhredegar—y pryd hwnnw fel arweinydd Côr Dowlais—ac yn cael hanner gwobr. Parhaodd i ennill tir fel beirniad ar hyd y blynyddoedd, hyd 1879—80, pan roddwyd iddo'i le fel un o feirniaid cyson yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y pryd hwn hefyd rhoddodd gystadlu heibio, er ei fod yn graddol addfedu i hyn ers blynyddoedd, fel y dengys y llythyr a ganlyn o'i eiddo at Mr. Lewis, Llanrhystyd:—