Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peroriaeth uwchraddol,—ond prif bwnc y Cymro fynychaf yw gwneud ei hunan yn boblogaidd.

"Rheswm arall yw mai am ganigau y cynhygir gwobrwyon ym mhob Eisteddfod, ac y mae'r awydd am gystadlu wedi mynd mor gryf fel nad oes dim ond canigau'n cael eu cynhyrchu o'r naill flwyddyn i'r llall."


Ynglŷn â Chaniadaeth, dan y teitl "Y Twelfth Mass" yn Aberdar (Nadolig 1874) ysgrifenna:—

"Er ys cryn amser, drwy y wasg ac yn bersonol, yr ydym wedi cymeryd yn ddigon rhydd ar ein cyfeillion cerddorol yn y lle uchod i ddweyd wrthynt fod maes eang iawn o wneud daioni ynglyn a cherddoriaeth glasurol heb ond prin ei gyffwrdd yng Nghymru, a'n bod yn ei hystyried yn ddyledswydd arbenigol arnynt hwy—the heroes of many a fight—i lafurio yn y maes gogoneddus hwn. Nid ydym yn y fan hon yn mynd i ddweyd dim dros nac yn erbyn cystadleuaeth Eisteddfodol, ond yn unig barnwn fod dyledswyddau uwch at gerddoriaeth gan gorau galluog Aberdar, Glyn Ebbwy, Merthyr a Dowlais, nac ymgystadlu fyth a hefyd a small fries yn yr hyn nas gellir eu galw yn bresennol ond music-fights, a llawer ohonynt er cywilydd a gwarth ein cenedl a'i hen sefydliad cenedlaethol." O'r tu arall, y mae ei sêl dros burdeb eisteddfodol—lle byddo cystadleuaeth—yn peri iddo arwain cad o'i gyd-gerddorion yn y De—Eos Rhondda, John Thomas, Alaw Ddu, Dewi Alaw, Dd. Lewis a Frost—yn erbyn gwaith pwyllgor Eisteddfod Bangor yn caniatau—os nad trefnu—fod y wobr am gyfansoddiad cerddorol yn cael ei dyfarnu heb fod un o'r beirniaid, sef Joseph Parry, yn cael gweld y cyfansoddiadau