Mr. Parry yn teimlo fod myned i'r borfa am dymor yn llawn mor angenrheidiol i'r meddwl ag ydyw —i'r corff, neu hwyrach ei fod yn gweithio yn ddistaw ynglyn a rhyw chef d'œuvre ag sydd i'n synnu yn fuan! Pa fodd bynnag y mae yn ffaith mai dim ond prin dal i fyny ei reputation mae wedi wneud drwy y darnau bychain ag ydym wedi dderbyn o'i law ers amryw flynyddau bellach, ac o ganlyniad yr ydym yn croesawu ymddangosiad y rhangân hon fel rhywbeth uwch a theilyngach o'r awdur." Tebig fod atsain hiraeth am "feddwl yn rhydd at feddyliaeth gerddorol" yn y dyfyniad hwn, ond yma eto y mae'r syniad o rhyw waith. yn ymwthio i'r golwg. Cyfeiriwn at hyn am ei fod yn raddfa (stage) yn hanes uchelgais dyn ieuanc —yr awydd i wneuthur rhywbeth mawr fyddo'n taro'r dychymyg ac yn tynnu sylw'r byd nes dod i weld, ac ar y ffordd i ddod i weld (os bydd yna dwf) fod gwir fawredd yn fater o ansawdd yn hytrach nag o faintioli. Mae'r pregethwr ieuanc uchelgeisiol eisieu'i "gwneud hi" mewn pregeth fawr, cael eglwys fawr, bod yn bregethwr mawr—neu fynd at y Saeson, ac i Lundain—ac yna daw i weld, os gweld a wna, os "achubir" ef, mai gwasanaeth syml sydd yn fawr, ac mai "false Infinite" yw'r llall.[1] Teimlai Emlyn fod byd cystadleuaeth eisteddfodol, a byd canig a thôn, yn rhy gyfyng i'w uchelgais ef y pryd hwn, a hiraethai am awyrgylch fwy eang a rhydd; yn raddol y daeth i weld fod y rhyddid hwn iddo ef mewn gwasanaeth syml i'w genedl a'i oes—ond fe ddaeth i weld, ac yna i wneuthur.
- ↑ Y mae gan George Macdonald stori "Home Again" yn ymdrin â'r mater.