Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn drafaeliwr hyd 1891, gan wneuthur Henffordd yn ganolfan o hyd; ond wedi rhoddi'r busnes i fyny, nid oedd galw neilltuol dros aros yno, ac yn 1894 symudodd gyda'i briod i Gemmaes, i'r tŷ lle y treuliasai hi flynyddoedd cyntaf ei bywyd priodasol, "Bron y Gân." Yma treuliodd yn agos i ugain mlynedd olaf ei fywyd, heb ddim i dorri ar rediad tawel, ac allanol undon y dyddiau ond ymweliadau cyfeillion a groesawid fel cynt—yn fwy fel angylion na chynt, efallai, am fod yr ardal mor neilltuedig—ac ymweliadau â chyfeillion, a chryn lawer o deithio i Eisteddfodau, draw ac yma.

O'r pryd hwn y mae ei fywyd yn ymganghennu mewn llinellau o wasanaeth amlwg, a bydd yn well i ni, o hyn allan, geisio dilyn y rheiny na chario'r hanes ymlaen yn ei grynswth o flwyddyn i flwyddyn. Yn wir, pan feddyliwn amdano yn y cyfnod llawndwf hwn, yr hyn a'n tery yw nid dilyniad amgylchiadau drwy gwrs o flynyddoedd—dros ddeng mlynedd ar hugain—ond y gwahanol arweddion hyn ar ei lafur—y gwahanol ddorau na cheuid mohonynt nemawr byth yng ngweithdy ei wasanaeth prysur fel cyfansoddwr, beirniad, athro, hanesydd, golygydd a gohebydd.

Yn y fan hon, rhaid i'r cofiannydd ymneilltuo am ychydig, a rhoddi ei le i rai cynhwysach i farnu Emlyn fel cerddor a beirniad. Fel arweiniad i mewn i'r rhan hon, ac fel braslun o wahanol gyfeiriadau ei weithgarwch cerddorol, anodd cael dim gwell na'r ysgrif a ganlyn gan ei gyfaill Mr. Harry Evans, a ymddangosodd yn Y Brython adeg ei farw:—