Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BLODYN AR FEDD" EMLYN BACH."

Dyma'r Angau cas wedi cipio'n banergludydd oddiarnom yn y gad dros Gerddoriaeth Gymreig; a dyma'r genedl felly'n dlotach oherwydd colli Mr. Emlyn Evans. Er iddo gario'i groes—sef croes afiechyd corfforol—ar hyd ei oes bron, ni wyrai yr un fer oddiar lwybr dyletswydd, ac nid oedd yr un demtasiwn mewn bod a allai ei hudo ef rhag ymgyrraedd at ddelfryd ucha'i Gelfyddyd a'i Gân. Arweiniodd ar hyd y ffordd yn ddewr ac yn ffyddlon, ac er mai ychydig fu nifer ei ddilynwyr —yr oedd Mamonaeth yn rhy gryf i'r lliaws—fe ddeil ei waith, ac fe sylweddolir gwerth ei gyfarwyddyd yn y dyfodol.

Cefais i y fraint o'i adnabod yn dda ac yn fynwesol am lawer blwyddyn, a golygai ei adnabod ef fy mod nid yn unig yn ei garu, ond yn ei edmygu am ei alluoedd mawrion a'i gywirdeb dilychwin. Yr oedd yn drwyadl ymhopeth a wnai. Yr oedd taclusrwydd, cywirdeb, a barn ddiwyrni yn gwbi gyfystyr â'r enw "Emlyn Bach." Byddai bob amser yn barod ac ewyllysgar i gynorthwyo'r efrydydd ieuanc; cymerai'r drafferth fwyaf oedd fodd i roi'r cyngor a'r cyfarwyddyd goreu; hynny'n ddieithriad heb ddimai o dâl.

Yn ei lwyddiant cynnar fel cystadleuydd a chyfansoddwr, safai'n hollol ar ei ben ei hun yn hanes yr Eisteddfod. Gwnaeth lawer o'r gwaith hwn dan yr anhawsterau mwyaf. Yr oedd ei wybodaeth am farddoniaeth bron gyfled â'i wybodaeth am gerddoriaeth; a'r cwbl, wrth gwrs, wedi ei gael drwy ei ymroddiad e'i hun. Bu ei brofiad masnachol o gryn gynhorthwy iddo, megis y dangos—ai boneddigeiddrwydd a phrydlondeb ei holl lythyru a gohebu. Safai'n uchel fel cyfansoddwr