Cymreig, a gadawodd amryw drysorau a ddaliant yn hir, yn enwedig mewn cerddoriaeth gysegredig. Y mae ei emyn-donau mor ddillyn eu ffurf ag ydynt o ddyrchafedig eu teimlad; a rhai ohonynt yn gydradd â gemau Ambrose Lloyd. Am ei ranganau —rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu ers llawer blwyddyn bellach—ni chaed mo'u gwell gan yr un cyfansoddwr Cymreig; ac am ei waith gyda'n halawon cenedlaethol y mae hwnnw'n aruthrol. Ac nid y peth lleia'i ddiddordeb o'r cwbl a wnaeth ydoedd adolygu ac offerynnu (orchestrating) ein horatorio Gymreig gyntaf—Ystorm Tiberias Tanymarian.
Ond dichon mai ei waith mwyaf i gyd ydoedd fel beirniad. Ef, heb os nac onibâi, oedd y beirniad cerdd mwyaf a gododd Cymru, ac yr oedd y reddf feirniadu ynddo i raddau helaeth anarferol. Ef oedd y beirniad medrusaf a gwrddais i. Yr oedd yn effro, yn sicr ei feddwl, ac yn gyflym i brisio gwerth perfformiad; ac fel beirniad ar gyfansoddi, 'doedd mo'i hafal yn ein mysg.
Am ei waith fel golygydd y llyfrau tonau cyfundebol, enynnai edmygedd pawb; a bu ei ysgrifau godidog i'r Cardiff Times bob wythnos, heblaw y lleill o'i eiddo yn y Cerddor, o wasanaeth anfesuradwy i Gerddoriaeth Cymru. Yr oedd ei lawysgrif mor dwt a del ag oedd ei iaith o gryf a phenodol. Nid byth yr afradai'r un gair, ac yr oedd ei lythyrau'n batrwm o berffaith o ran eu harddull a'u broddegu. Yr oedd yn hollol onest a diofn fel beirniad, nid byth y meddalid ef gan deimlad y dyrfa, ac nid byth y twyllid ef gan na rhwysg na rhagrith neb pwy bynnag. Blinwyd ac erlidiwyd yntau, megis y blinwyd ac yr erlidiwyd eraill ar ei ol, gan ar-