weinyddion siomedig a chysetlyd; ond yn y diwedd ef fyddai'n iawn, a'r gau-dduwiau'n siwrwd a' drylliau dan ei draed. Ni allai aros dim i chwydd a mawredd gwag, a daliai'n dyn dros "burdeb" mewn canu, ac nid dros yr hyn a elwir yn rym neu ryferthwy. At ei gilydd, yr oedd yn bur obeithiol am Gerddoriaeth Cymru, er yn gresynu am rai o'i gweddau presennol. Oherwydd ei afiechyd, a'i fod ar encil ers cyd o flynyddoedd, ni allodd gadw'n wastad â datblygiadau diweddar Cerddoriaeth, ond yr oedd ei feddwl yn gydnaws a phob amser yn agored. Yr oedd yn edmygydd mawr o Mendelssohn, a fo oedd ei fodel ar lawer peth.
Meddai lais tenor da pan yn llanc, ond yr oedd yn rhy wan a gwachul ei gorff i ddod byth yn ganwr ar goedd. Un nos Sul yn haf 1907, yn ei drigfan dawel, ramantus yng Nghemaes perswadiais ef i ganu, a dyna'i ymgais olaf. Er fod ei anadl yn fyr, eto i gyd yr oedd peth o'r hen burdeb tenoraidd yno o hyd, a rhyngom ein dau, deuthom trwy "Comfort ye, my people" ac "Every valley shall be exalted."
Yr oedd ei ddawn at ddigrifwch (sense of humour) yn ddihysbydd, yr un fath a'i gof, a 'doedd neb a'i trechai mewn dadl, canys nid byth y dadleuai heb fod ganddo'r ffeithiau wrth gefn; a gwae'r gwrthwynebydd hwnnw a ddadleuai'n unig er mwyn dadlu. Ac mewn dadl neu ymgom, yr oedd yn barod ei bwyth ac yn ddeifiol a ffraeth ei ateb, ac yn gyffredin ef a gaffai'r gair olaf.
Gweinyddodd ei weddw arno ag amynedd a thiriondeb diball ar hyd ei waeledd mynych a thrwm. Carodd Gymru; ac felly heddwch fo i'w lwch,