Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan oedd yn dechreu "trwsio'i adenydd" fel y gallai ehedeg yn ddiofn yn y ffurfafen gerddorol, yr oedd y rangan a'r ganig yn boblogaidd. Edmygai ranganau swynol Mendelssohn yn fawr, a mynych, ymhen blynyddoedd wedi hynny, cymhellai efrydwyr ieuainc i astudio Mendelssohn fel model yn y gelfyddyd o ran-weithiadaeth. Ond er poblogrwydd y rangan nid arhosodd Emlyn gyda'r ffurf hon, ond ymgeisiodd at ffurfiau uwch; a chawn ef yn cyfansoddi Y Tylwyth Teg. Hefyd torrodd dir newydd yn ei ganeuon. Efallai y dywed rhai iddo efelychu rhai o'r Caneuon Saesneg yn eu ffurf, ond wedi'r cyfan, i'r Cymro yr oedd popeth yn newydd. Bu'n gystadleuydd hynod lwyddiannus, ac y mae amryw o'i ganeuon goreu yn rhai arobryn. Mewn amryw ohonynt, agorai y gân gydag adroddgan fel ym Medd Llewelyn a Chan y Tywysog. Pa ganeuon Cymreig, mewn unrhyw gyfnod, sydd yn anadlu mwy o nwyd a dyhead y Cymro? Yr oedd yr alawon yn ganadwy, y ffurf yn ogleisiol, a'r cyfeiliannau yn chwaraeadwy ac effeithiol. Y mae yn syndod ei fod yn gallu ysgrifennu cyfeiliannau mor bwrpasol i'r piano, gan nad oedd ef ei hun yn honni bod yn bianydd! Pan ymwelodd Eos Morlais â'r Amerig, caneuon Emlyn a daniai'r cynulliadau Cymreig. Yr wyf mewn aml i fan wedi dod ar draws llu a gofiai am ymweliad y prif ganwr. Ar unwaith try'r siarad at y caneuon a genid, a chofir gan bawb am y brwdfrydedd a'r hwyl a geffid gyda chanu'r Eos o Hen Wlad y menyg gwynion. Os efelychiad ydyw'r ganmoliaeth uchaf, yna'n sicr yr oedd cyfansoddwyr Cymreig yn meddwl llawer ohonynt, gan i lawer cyfansoddwr eu hefelychu—yn eu ffurf o leiaf. Gwelir hyn yn hawdd ond