Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/134

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynghaneddol? Nage, yn wir, ond oherwydd y felodi nef-anedig sydd ynddi. A dyna'r gerddoriaeth fydd byw. Mawr yr asbri am gordiau dieithr sydd yn meddiannu llawer o gyfansoddwyr y dyddiau hyn—ond y maent yn amddifad hollol o'r wir awen, a gellir yn hawdd weddio am i'r "anadl" ddod i chwythu ar y lladdedigion hyn, a rhoi bywyd yn eu hesgyrn sychion. Yr oedd awen Emlyn yn aml-ochrog, ac nid yn ei ganeuon a'i weithiau cyflawn yn unig yr ymddisgleiriai, ond hefyd yn ei ranganau a'i donau. Gallai lunio tôn cystal â neb; ac er efallai nad ydynt wedi cyrraedd poblogrwydd un neu ddwy o donau ei gydoeswyr, eto y maent yn sicr o ddal eu tir ochr yn ochr â'r rhai goreu o'n tonau Prydeinig. Pa well esiampl o'r emyn—don na Threwen, yn enwedig pan ei cenir ar eiriau anfarwol David Charles:

"O! Gariad, O gariad mor rhad,
O! foroedd o gariad mor fawr."

Y mae Eiring ac eraill o'i eiddo yn batrwm o'r hyn a ddylai tôn gynulleidfaol fod. Yr oedd yn llwyddiannus iawn gyda'i ranganau. Yr oedd y rhan-weithiadaeth yn glir a chryno, y felodedd yn llawn swyn, ac yn rhedeg yn rhydd a naturiol, fel afon ddofn, heb yr arwydd lleiaf o drai ar y dyfroedd melodawl. Gem ei ranganau yn ddiau ydyw How sweet the moonlight sleeps. Dioddefai lawer gan ball cwsg, ac yn nhrymder nos hir y canodd ei rangan hyfryd ar eiriau y Bardd o Stratford. Mae geiriau'r Prif-fardd wedi cael dehongliad perffaith, a braidd na thybiwn fod Emlyn o ran dychymyg yn ei hen ardal, ac yn canfod ei hun yn sylwi ar y Teifi yn rhoi ei thro heibio'r Castell, y lloer yn gwenu'n swynol ar