Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

if there is a song in all the history of music in which the senses are so lured into unity and force of delightful experience. The imagination creates an object of sight in which the heart throbs in love's unison with Lorenzo and Jessica. The sense of hearing is ravished with an experience in and through tones equal to the pattines of fine gold,' and musically it is all carried farther than even Shakespeare's words can bear the thrill of ecstasy, because music alone like this may intimate the largeness of Shakespeare's thought of immortality which concludes the play."

Cenir alawon hyfryd Emlyn gan genedlaethau i ddod, ac atseinia eu hacenion cyfareddol rhwng Bryniau Cymru tra pery'r Cymro i garu "cerdd yn angerddol."

B.—Gan TOM PRICE.

Ar wahan i gyfansoddiant cerddorol, ystyriaf mai'r ddau a gyflawnodd fwyaf o wasanaeth i gerddorion a cherddoriaeth Gymreig oedd Ieuan Gwyllt a D. Emlyn Evans; y cyntaf gyda cherddoriaeth y cysegr a'r olaf yn gyffredinol. Yr oedd Mr. Emlyn Evans yn gerddor arbennig i gerddorion, am fod ei saerniaeth mor goeth a dillyn, a hynny mewn cyfnod pan nad oedd gwybodaeth gerddorol a chwaeth bur mor gyffredin ag ydynt yn awr. Cofiwn ymddangosiad y canigau cyntaf, megis "Y Gwanwyn," "Dewch tua'r coedydd," "Mor swynol ydyw'r nos," etc., a gallaf yn ddibetrus fynegi nad oes gennym eto, fel canigau, ddim i'w gymharu â hwynt, mewn pert—rwydd rhan—weithiadaeth, gloewder y gynghanedd, a symudiad mydryddol (rhythmical). Gwyn fyd na