Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

Emlyn, ac o Fron y Gân. Y mae ysgrif Mr. W. M. Roberts—o swyddfa'r Cerddor yn ychwanegiad diddorol at werth y Cofiant. Yr oeddwn yn dibynnu ar help Mr. John Thomas, Llanwrtyd, i ymdrin â chyfnod 1860-70. Er fod y ffeithiau gennyf, ni wyddwn sut i adgynhyrchu awyrgylch y cyfnod. Cefais na allai Mr. Thomas fy helpu oherwydd henaint a phall cof. Yn y cyfyngder hwn, derbyniais sypyn o lythyrau Emlyn at Mr. D. Lewis, Llanrhystyd, oddi wrth nai yr olaf, —y Parch. Wyre Lewis, Rhos—llythyrau aiff â ni'n ol i ganol y cyfnod: ac am y rheswm hwn gwnaed defnydd tra halaeth ohonynt. Cefais fenthyg cannoedd o'i lythyrau gan eraill, megis Mrs. Herbert Emlyn, Miss Nellie Jenkins, Mri. D. W. Lewis, Tom Price, John Price (Beulah), H. R. Daniel, Ernest Jones, M.A. (Llandudno), Tom Jones, Y.H. (Abertawe), ac eraill.

Yr wyf yn ddyledus i Mr. D. Jones, Van, Llanidloes, am fenthyg ei draethawd arobryn ar Hanes Cerddoriaeth yng Nghymru yn ystod 1860—1910, a'i ysgrif ddiddorol ar ddyfodiad Emlyn i'r Drenewydd ; ac i Mr. E. Jenkins, Y.H., Llandrindod, am lawer o ddefnyddiau heblaw'r ysgrif o'i eiddo. Cefais fenthyg llyfrau a fu o gynhorthwy pwysig, gan Mr. J. Ballinger, Aberystwyth, y Parch. J. J. Williams, Treforris, a'm chwaer.

Yn olaf, y mae fy nyled yn fwy nag y gellir ei chyfrif i Mr. J. H. Jones, Golygydd Y Brython, am ddarllen y MS. a'm helpu gyda'r iaith, drwy symud meflau Seisnigaidd, a'i llyfnhau a'i chaboli mewn llawer man a modd.