Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/144

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"dyn" yn awgrymu'r elfennau o ddewrder a ffyddlondeb yn unig sydd yn angenrheidiol i'r gwaith, gan adael allan yr elfen o ganfyddiad delfrydol sydd hefyd yn anhebgor i ddwyn y dyfodol a'r gorffennol i'r berthynas iawn â'i gilydd yn y presennol, efallai y byddai'r gair "proffwyd" yn well, os caniateir ei ddwyn i fewn i'r cylch cerddorol yn yr ystyr o un yn siarad dros a chynrychioli delfryd. Yr ydym wedi galw'r cyfnod olaf hwn yn Gyfnod Gwasanaeth; ond pan daflwn ein golwg dros wahanol gylchoedd ei wasanaeth i chwilio am ryw nodwedd gyffredinol ynddynt, cawn ei fod ef wedi gwasanaethu ei oes a'i wlad drwy ffyddlondeb di-ildio i ddelfryd cerddorol uchel. Safodd fel y dur dros burdeb cerddorol, purdeb beirniadu a chystadlu, a phurdeb addoli, mewn storm a thês, drwy ddŵr a thân, drwy air ac esiampl, ar hyd y blynyddoedd. Dyna pam, mae'n debig, y geilw Mr. Harry Evans ef faner-gludydd." Prun bynnag ai fel golygydd cyfnodolyn, neu ohebydd drwy lythyr at gyfaill ieuanc, ai ar lwyfan yr Eisteddfod, neu'n siarad ar Ganiadaeth y Cysegr, y mae'r faner yn wastad i fyny, ac ni fyn ei llychwino na'i gostwng er dim. Ac fel yr êl y blynyddoedd heibio, mae ei sêl yn mynd yn fwy yn hytrach nag yn llai; serch llygru ei ddyn oddiallan, er hynny ei ffyddlondeb i'w ddelfryd a adnewyddid o ddyddi ddydd ac a gryfhâi ac a loewai hyd y diwedd.