Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVI.
EI DDELFRYD CERDDOROL.

CANIATAWN fod y termau y "delfryd cerddorol," "purdeb cerddorol" braidd yn amhenodol; ond gan mai ysgrifennu Cofiant yr ydym, ac nid llawlyfr, rhaid i ni adael i'r hanes dilynol eu llenwi â chynnwys mwy pendant. Dechreuwn yn y fan hon drwy gyflwyno i sylw'r darllenydd rannau o ysgrif o eiddo Emlyn ar Gerddoriaeth y rhannau hynny'n unig a deifl oleu ar ei syniad uchel amdani hi a'i swyddogaeth. Pe bâi marchog ffugr yn help, byddai'r teitl "Arwyddair ei Faner" yn gyfaddas i'r bennod hon.

Wedi cychwyn gyda natur fewnol (subjective) Cerddoriaeth o'i chymharu â Cherfluniaeth, Paentyddiaeth a Barddoniaeth, a gwrthod y ddamcaniaeth mai efelychiadol ydyw o ran ei dechreuad, drwy ofyn "I ba beth mewn natur y gellir cyffelybu'r hyn a eilw'r anwar yn Gerddoriaeth?" "Diau y canai yr adar yn bur debig yn y 9fed ganrif ag a wnant yn y ganrif hon, ac os felly, rhaid mai efelychwyr dirmygedig o sâl oedd yr hen gerddorion!" â ymlaen:—

"Yn ddiweddar iawn mewn cymhariaeth, y darfu i gerddorion feddwl am efelychu natur—gorchwyl cerddoriaeth yw awgrymu meddyliau, a chynhyrchu teimladau, ac nid dynwaredu; ac er fod gennym eithriad nodedig yn Symphoni Fugeiliol Beethoven, yn gynnil iawn y gwnaed hyn—ac y gwneir, mwy na thebig. Nid oes neb na wâda na fyddai'r symphoni hyfryd uchod nemawr gwaeth, pe heb yr ychydig nodau dynwaredol a geir mewn un symudiad;