Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r un fath am fannau neilltuol yn y "Creation," lle yr â papa Haydn yn bur agos at y ffin sydd yn gwahaniaethu y coeth oddiwrth y cyffredin. Lled debig fod rhyw gyfatebiaeth rhwng natur alawon cenedl â dyheuadau a theithi mewnol y cyfryw genedl, ond y mae yn rhy ddwfn i'w olrhain i ddim pwrpas. Diau hefyd fod i gerddoriaeth gwahanol genhedloedd nodweddion fwy neu lai arbennig—yr Eidalaidd, lyfnder ac arwyneboldeb; y Ffrangcaidd, ysgafnder a phertrwydd; yr Ellmynnaidd, ddyfnder a thrymdra; a'r Saesnigaidd, eglurder a sylweddoldeb; ond nodweddion cenedlaethol yw y rheiny wed'yn. Efallai fod a fynno golygfeydd naturiol â'r pwngc i ryw raddau—gwastadeddau, neu fynyddau uchel, &c.; ond y mae gwastadfeydd yn Ffraingc ac yn Lloegr, a mynyddoedd yng Nghymru ac yn yr Eidal? Nid oes dim, pa fodd bynnag, yn alawon cenhedlaethol unrhyw genedl ag y gellir ei olrhain i sŵn naturiol nac afonig na choeden nac aderyn yn y wlad honno. Nid oes dim yn "Duw gadwo'r Czar" i'n hadgoffa am unigeddau rhewol Rwssia, mwy nag sydd yn "Nglâs-glychau Ysgotland" am gilfachau creigiog yr Alban, neu yn "Hen Wlad fy Nhadau " am fynyddau rhamantus ein hen—wiad ni."

Wedi siarad am gerddoriaeth ymhellach fel gwyddor, gofynna—

"Beth all cerddoriaeth gyflawni wedi'r cyfan? A yw'r ffrwyth yn gyfartal i'r moddion a ddefnyddir? Ydyw hi yn goleuo ein golygiadau, ac yn eangu ein meddyliau? Yn ein gwneyd yn fwy deallus, neu yn fwy doeth, yn fwy ymarferol neu yn fwy moesol? O bosibl na ellir rhoddi atebiad cadarnhaol di-amododol i'r cwestiynau yna; ond gallwn ddweyd fod