Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wele'r llong gerddorol bellach yn nofio ym môr y symffoni a'r sonata:—

"Nis gall dim fod yn fwy diddorus na sylwi ar ddull ymddiddanol Beethoven gyda'r gerddorfa; fel y crwydra oddiar y llwybr, ac y colla ei hun i bob ymddangosiad gyda phethau dieithr ac amherthynasol, hyd nes yr ydych yn rhyfeddu pa sut y gall byth ddychwelyd at ei bwnc gwreiddiol; weithiau dringa i fyny i'r nenfwd a'r offeryn hwn, ac erlidia ef ag un arall; wedyn daw a hwy yn ol, i ymgymysgu blithdraphlith a'u brodyr, gan eu gadael yno yn ol pob ymddangosiad, i wneud dim ond ymraf-lio ac i ddinistrio pob rheol a threfn. Ond yng nghanol y cythrwfl daw tawelwch; ni chlywir namyn un yn dal pen llinyn rheswm—efallai y clarinet ofnus ond ffyddlon; wedyn hwyrach daw y bas ŵn i gefnogi ei chwaer ieuengach, a phob yn dipyn y gerddorfa, hyd nes y bydd yn un hwre wyllt. Weithiau drachefn, rhydd yr un chware-teg i'r oll o'r offerynnau, ac yna cydia yn yr offeryn hwn a'r offeryn arall, gan eu trin a'u troi, eu boddio a'u siomi, nes y collant eu tymer; ac yna ymdrecha un i roddi gair i fewn yn y fan hon, arall fan hon, arall yn y fan acw; un yn gariadus a'r llall yn ddigllawn, nes y byddarant chwi o'r diwedd a'u gwahanol ofynion a'u taeru.

"Daearol ddigon oedd ef mewn llawer ystyr, ond yr oedd ei fyfyrdodau eneidiol yn myn'd ag ef i uchelderau lle nas gallai golygon cyffredin ei gyd-ddyn dremio. Ac y mae hyn i'w deimlo fwy neu lai ei gerddoriaeth; y mae ei offerynnau yn siarad gyda hyawdledd difesur, ond nid iaith dyn a siaredir ganddynt. Yr ydym yn gwrando arnynt gyda'r mwynhad dyfnaf, ond nid gyda'r un cydymdeimlad per-