Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/152

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyntedd, ac efallai eraill ar eu holau, o herwydd yn nhŷ y gân y mae llawer o drigfannau.' Nid ydym am ymrestru ymysg y proffwydi, ac amser yn unig a benderfyna safle derfynol pob dyn. 'Nis gwyddom eto pa beth a fyddwn,' ddylai fod ein harwyddair pan yn ymwneyd â'r cwestiwn. Efallai y ceir fod Wagner, fel y myn rhai o'i edmygwyr, wedi codi iddo ei hun arsyllfa ar ben tŵr Beethoven; efallai na cheir. Bu yn galed ar Handel tra yn ymladd â'r wrthblaid gref oedd yn ei erbyn yn Llundain, a Buononcini fel ei harwr; dim ond o ychydig, hyd yn oed gyda help y frenhines, y darfu i Gluck fuddugoliaethu ar y Picciniaid yn Paris; bwyta ei ginio gyda'r is-wasanaethyddion, a chael ei ddianrhydeddu'n anhygoel ymron, yn mhalas yr Archesgob yn Salzburg oedd tynged Mozart; ail-adroddiad i raddau pell o hanes Handel a Buononcini, Gluck a Piccini oedd eiddo Weber a Spontini; o brin y caed gan gyhoeddwyr Vienna i brynu caneuon Schubert am ychydig geiniogau: a dim ond dibrisdod ac oerfelgarwch a dderbyniodd Mendelssohn oddiar law ei gyd-ddinasyddion yn Berlin. Yn mha le yn nheml y gerdd y saif Buononcini, Piccini, a Spontini yn awr, heb siarad am y fath bobl ag Archesgob Salzburg, cyhoeddwy Y Cerddor ol Vienna, a dilettanti Berlin? Dengys yr ysgrif hon mor aruchel a chyfoethog yn olwg oedd byd y cerddor, ac mor urddasol oedd ei swydd, ac ni all neb fod yn broffwyd neu fanergludydd heb ei feddiannu gan weledigaeth felly. Yr unig gŵyn ag y gellir ei dwyn—a'r gŵyn, yn wir, a ddygir—yn ei erbyn yw, nad oedd ei fyd cerddorol, er yn fawr, yn ddigon mawr i gynnwys Wagner, Berlioz, &c. Y mae hyn yn wir i fesur,—yn wir yn yr ystyr nad oedd ef