Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/153

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ei feddiannu ganddynt hwy fel yr oedd gan y meistri eraill, o Bach hyd Mendelssohn. Negyddol oedd ei ymagweddiad at y lleill yn hytrach na gwrthwynebol; yr oedd yn wrthwynebol yn unig i'w haddolwyr, y rhai "wrth osod i fyny eu hallorau delw-addolol oeddynt ar yr un pryd yn dorwyr delwau di-ail eu hunain." Yr hyn a ddywed am Wagner ei hun yw: "Diameu fod Richard Wagner yn gerddor galluog iawn; un o'r galluocaf, ar rai ystyron o leiaf, a gynhyrchodd y ganrif bresennol"; ac eto, "Nid ydym yn dweyd gair yn erbyn astudio Wagner a'i ysgol; i'r gwrthwyneb, ein cyngor yw, darllener, gwrandawer, ac astudier hwy yn fanwl; ond nid ar draul esgeuluso'r cyfryw lwybr gyda chyfansoddwyr eraill. Yn nhy y gân y mae trigfannau lawer, a'r hyn a wna yr efrydydd call yw eangu ei feddwl a gloewi ei amgyffredion drwy fynnu cydnabyddiaeth a'i breswylwyr oll."

Eto i gyd ni ellir dweyd ei fod yn eu hedmygu hwy fel yr edmygai ei " feistri "—enw. na roddai iddynt; ac y mae'n ddios na chaniataodd ei iechyd iddo wneuthur chware teg â'u gweithiau. Gosodir ei ddelfryd effeithiol ef allan yn ngeiriau'r Tywysog Albert am Mendelssohn a ddyfynna Emlyn:—

"Y Celfyddwr uchelryw, yr hwn, ynghanol Baal-addoliaeth celf lygredig, sydd wedi bod yn alluog, drwy ei athrylith a'i wyddor, fel Elias arall, i ddiogelu Celf wir, ac unwaith eto i gynefino ein clustiau, ferwinwyd yn chwildro dawns gwag o nodau, i nodau pur cyfansoddiant ystyrlawn, a chynghanedd gyfreithlon:—y meistr mawr sydd yn ein gwneyd yn ymwybodol o unoliaeth ei syniad drwy holl wead—waith ei greadigaethau, o sibrydiad esmwyth hyd at gynddaredd aruthr yr elfennau"!