Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

(3) Yr oedd ganddo dalent lenyddol a greddf hanesyddol y tuhwnt i'r cyffredin, a'i galluogai i ysgrifennu'n fedrus a diddorol ar faterion cerddorol, ac i gyfrannu ysgrifau o werth i hanes cân, yn gystal. yn ei hamddiffyn a'i hyrwyddo. Yr oedd yn hyn yn ddilynydd teilwng i Ieuan Gwyllt.

(4) Perthyna'r nodweddion uchod i ochr y "don- iau," ond yr oedd iddo hefyd nodweddion moesol amlwg. Yr oedd ganddo syniad mor uchel am swyddogaeth cerddoriaeth fel dawn o'r Nef, fel na fynnai wneuthur cyfaddawd o gwbl â'r rhai a geisial ei darostwng i amcanion neu lefel is. Mynnai gadw'r faner i fyny pa mor gryf bynnag y byddai'r gwynt. Meddai nid yn unig lygad a chalon i weld a theimlo anian, ond gwroldeb a feiddiai gydfyned â hi, yn wyneb pob gwrthwynebiad.

(5) Yr oedd ei ffyddlondeb i gydwybod a gonestrwydd ar y fainc feirniadol lawn cymaint a'i eiddo i burdeb cerddorol: ni ellid gwyro'i farn yn allanol, na phrynu ei ddyfarniad.

(6) Edmygir ef gan ei gydnabod ar gyfrif ei benderfyniad di-ildio i ddisgyblu ei feddwl, a gwasanaethu ei genhedlaeth yn wyneb anfanteision ar bob math o'r tu allan, a llescedd a dioddefaint o'r tu fewn na wyddai dynion yn gyffredin ddim am ei angerdd a'i gysondeb. Dylasai y llinell hon yn ei gymeriad fod yn gymaint symbyliad a dim i'r Cymry ieuainc sydd yn cael eu codi ymhlith manteision ar bob math mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau'n gyffredinol.

Y mae y cyfeiriad cyffredinol hwn at y nodweddion uchod yn ei gymeriad o angenrheidrwydd yn rhoddi iddynt wedd sy braidd yn ddiamodol (absolute). Ni faentumir eu bod ynddo ef uwchlaw diffygion