natur ac ymyriad amgylchiadau ; ond bydd digon o gyfleusterau yng nghwrs y Cofiant i ddwyn i fewn bob cymedroliad angenrheidiol yn wyneb ymyriadau ar y fath.
Ymran ei fywyd yn naturiol i dri chyfnod, y gellir eu galw y rhagbartoawl, y cynhyddol (cystadleuol) a'r addfed (beirniadol)—nid yn yr ystyr, bid siŵr, nad oedd yna gynnydd yn yr olaf a beirniadaeth yn yr ail, ond yn yr ystyr fod ansawdd y cyfnodau, ar y cyfan, yn gwahaniaethu yn y modd uchod. Ymddengys fod yna gyfnodau cyffelyb yn hanes pob un sydd yn ymroi i unrhyw waith mawr mewn bywyd: sef cyfnod pan y mae'n ceisio dod o hyd i'w waith, cyfnod pan y mae'n cael ei feddiannu ganddo ac yn ymroi i'w feistroli, a chyfnod pryd y gellir dweyd ei fod bellach yn feistr ynddo. Dengys yr Athro Starbuck fod hyn yn wir hyd yn oed ynglŷn â chanu'r piano, sef cyfnod o gysylltiad allanol â'r offeryn, cyfnod perthynas fywydol gynhyddol, a chyfnod pryd y teimla'r offerynnydd mai nid ef sydd yn ei ganu mwyach, ond ysbryd cerddoriaeth, fel petae, yn canu drwyddo. Dechreua'r ail o'r cyfnodau hyn yn hanes Emlyn tua'r flwyddyn 1860 (wedi, yn fwy na chyn) ; a'r trydydd tua'r flwyddyn 1880— (cyn, yn fwy nag wedi). Arwead ddigwyddiadol ar yr ail gyfnod oedd cystadleuaeth (gwêl Pennod VI) ; ac o safbwynt moesol, yn hytrach na cherddorol, gellid galw y trydydd cyfnod yn gyfnod gwasanaeth, am nad oes dim yn fwy amlwg ynddo nag awydd Emlyn i fod o wasanaeth i'w genhedlaeth —ynglŷn â cherddoriaeth yn bennaf.
Yn y Cofiant hwn, gwneir ymgais i gysylltu ei hanes â datblygiad a chynnydd cerddoriaeth yng