Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/18

Gwirwyd y dudalen hon

Nghymru ; ac fel y mae'n digwydd, noda ef ei hun gyfnodau yn y datblygiad hwn yn dechreu tua 1840, 1860, ac 1880 (mewn un ysgrif o'i eiddo gwna 1850 yn safbwynt mwy cyffredinol i edrych yn ol a blaen ar hanes cerddoriaeth y ganrif). Yr ydym yn ddyledus i'r diweddar Athro D. Jenkins, Mus.Bac., am yr awgrym fod gan bob cyfnod hefyd ei arweinwyr —dynion brig y don fel tae—rhyw bump ohonynt ; ac, ymhellach, fod prif gystadleuwyr un cyfnod (yn y byd eisteddfodol) yn dod yn feirniaid y cyfnod nesaf. Fel hyn, yn y cyfnod 1840-1860, cawn y pumawd J. Ambrose Lloyd, Owain Alaw, Ieuan Gwyllt, Tanymarian, a Phencerdd Gwalia ar y blaen. Perthyn Brinley Richards i'r un cyfnod, ond ni fu ei berthynas ef â'i genedl mor uniongyrch ag eiddo'r lleill. Gyda 1860, daeth pump arall i sylw, y naill ar ol y llall, sef Gwilym Gwent, Alaw Ddu, John Thomas, Joseph Parry, a D. Emlyn Evans—yr ieuengaf ohonynt.

Yr ydym wedi cyfeirio'n arbennig at yr Eisteddfod, ac y mae'n amlwg ei bod hi wedi gwneuthur ei rhan yn natblygiad cerddoriaeth yn ein plith, yn gystal ag yn natblygiad cerddorol gwrthrych ein Cofiant ; ar yr un pryd, rhaid i ni dreio dilyn hanes y datblygiad hwn yn y naill a'r llall ar hyd llinellau ereill yn ogystal, sef eiddo Caniadaeth y Cysegr, yr Uchelwyl a'r Cyngerdd, ynghyda Chyfansoddiadaêth a Llenyddiaeth Gerddorol. Bu ef yn weithgar yn y cwbl o'r rhai hyn yn ol ei allu a'i gyfleusterau.

Wedi ysgrifennu'r uchod, daeth i'm llaw, drwy

garedigrwydd yr awdur,[1] draethawd arobryn Eisteddfod Meirion ar Gerddoriaeth yng Nghymru yn ystod

  1. Mr- D. Jones, Van, Llanidloes.