Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

yr hanner canrif diweddaf (1860—1910). Y mae'r traethawd o ddiddordeb arbennig i'r ysgrifennydd— a gall fod i'r darllenydd—am ei fod, yn rh?i o'i brif linellau, yn cydgordio â'r golygiad a gymerasom uchod, sef (1) yn y safle a ddyry i Emlyn yn sgîl y cyfuniad o alluoedd a feddai, ac (2) yn ei waith yn rhannu'r cyfnod uchod i ddau yn t88o, gan alw y cyntaf (1860-1880) yn Gyfnod y Deffroad (neu Gyfnod Ieuan Gwyllt), a'r ail (1880-1910) yn Gyfnod y Cynnyrch (neu gyfnod D. Emlyn Evans). Dyma'r hyn a ddywed ynglŷn â'r pwynt cyntaf:

"Symudwn ymlaen at yr olaf, ond nid y lleiaf, o wŷr mawr Cyfnod y Deffroad, Mr. D. Emlyn Evans."

Yna wedi cyfeirio at rai ffeithiau yn ei hanes bore, ychwanega:

"Dyna fe wedi dringo i'r dosbarth blaenaf ers dros ugain mlynedd, ac y mae yn aros yn y dosbarth blaenaf o hyd: a dywedwn fwy: a chymryd popeth i ystyriaeth, ei safle fel Cyfansoddwr, Beirniad (Cyfansoddiadaeth a Datganiadaeth), Trefnydd, Hanesydd, a Llenor cerddorol, dywedwn yn ddibetrus, y blaenaf oll"

Cysyllta enw Emlyn â Chyfnod y Cynnyrch

"am yr ystyriwn ei fod ef i gyfnod y Cynnyrch yr hyn oedd Ieuan Gwyllt i Gyfnod y Deffroad— yn weledydd i'w genedl, weithiau yn hyfforddi, bryd arall yn ceryddu, fel y bo'r achos. Y mae ei graftter diarhebol, ei onestrwydd a'i dalent, ei awydd angerddol i buro a dyrchafu ein cerddoriaeth ym mhob cyfeiriad, a'r cyfleusterau sydd wedi bod at ei law, trwy y tri chylchgrawn a olygodd—yn naturiol yn ei osod yn y safle bwysicaf yng Nghyfnod y Cynnyrch."