Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

II.
CERDDORIAETH GYMREIG DDECHREU'R GANRIF.

GAN fod ei hanes yng nghlwm wrth hanes cerddoriaeth ei wlad, a chan y cydnabyddir fod ganddo hawl i siarad ar y mater, caiff ef ddisgrifio sefyllfa gerddorol ei wlad yn ystod hanner cyntaf y ganrif ei ganed ynddi:—

Y mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio sefyllfa cerddoriaeth yn ein plith tua hanner canrif yn ol,[1] ac felly yn medru sylweddoli y gwahaniaeth rhwng yr hyn ydyw yn awr a'r hyn ydoedd yr adeghonno. Ni fydd hynny yn gynhorthwy uniongyrchol iddynt ffurfio barn fanwl am yr hyn ydoedd hanner canrif arall cyn yr adeg honno, ond gall fod o help,acnid oedd y gwahaniaeth a'r cyfnewidiadau yn scfyllfa cerddoriaeth, fel ag mewn popeth trwy y wlad a'r deyrnas, yn agos cymaint yn yr hanner canrif cyntaf ag yn yr hanner olaf. Yn wir, mor belled ag y mae a fynno â cherddoriaeth Gymreig, gellir dneyd fod cyfnod ein dadeni yn dechreu gyda'r hanner olaf o'r ganrif.

"Ond i droi yn ol i'w dechreu, yr oll o gerddoriaeth Gymreig argraffedig a feddem i wynebu'r ganrif oedd ychydig alawon coralaidd oeddent wedi eu cyhoeddi gyda Salmau Edmwnd Prys (1621), ac o waith Ifan Williams mewn Llyfr Gweddi Cyffredin,

o'r hwn y cyhoeddwyd ail argraffiad yng Nghaer-

  1. Gwêl Y Cerddor ddechreu 1901.